Preswylwyr Blaenau Gwent yn helpu i gefnogi Draenogod Trefol lleol

Cafodd prosiect ‘Draenogod Trefol’ ymateb rhagorol gyda phreswylwyr o bob rhan o’r fwrdeistref yn  gwneud cais am becyn draenogod a helpu’r poblogaethau draenogod o fewn Blaenau Gwent. Fel canlyniad, cafodd y 60 pecyn oedd ar gael eu dyrannu fydd yn helpu i sicrhau gweithredu cadarnhaol ar gyfer draenogod

Dywedodd Cydlynydd y Bartneriaeth Natur Leol ar gyfer Blaenau Gwent a Thorfaen: “Rwyf mor falch y bu’r prosiect hwn mor boblogaidd ac rwy’n edrych ymlaen at glywed sut mae’r pecynnau hyn wedi helpu draenogod yn yr ardal. Mae mor bwysig ar gyfer ein llesiant i ofalu am a phrofi natur ar garreg ein drws.”

Meddai Cadeirydd Llinell Gymorth Draenogod: “Rydym yn rhoi ein cefnogaeth lwyr i’r cynllun hwn gan Gyngor Blaenau Gwent a phopeth y gallant ei wneud i helpu goroesiad yr anifeiliaid annwyl a phwysig hyn. Mae’r amgylchedd ar ein cyfer ni a chenedlaethau’r dyfodol i’w fwynhau. Mae gennym gyfle yn awr i wneud gwahaniaeth, gadewch i ni wneud hynny! Diolch i chi am eich holl waith. Graham Blow BVSc MRCVS”

Oherwydd maint y diddordeb ymysg pobl Blaenau Gwent i helpu draenogod lleol, bwriadwn gynnig mwy o becynnau ddechrau Gwanwyn 2021 a byddwn yn cysylltu gyda’r Wythnos Ymwybyddiaeth Draenogod ym mis Mai. Felly os gwnaethoch golli ar y cyfle cyntaf, gallwch wneud cais arall lle gall fod cyfle i chi gymryd rhan. Caiff y pecynnau eu dyrannu ar sail cyntaf i’r felin a byddant hefyd yn dibynnu ar gael eu hasesu a diwallu’r gofynion drwy gyflwyno cais. Caiff manylion pellach ar sut i wneud cais arall eu cyhoeddi yng Ngwanwyn 2021.

Peidiwch ag anghofio y gallwch ddal i helpu draenogod yn eich ardal leol drwy gofnodi unrhyw ddraenogod a welwch i naill ai SEWBREC http://www.sewbrec.org.uk/information-about-biological-recording/biological-recording.page neu Hedgehog Street https://www.hedgehogstreet.org/.

Gorau po fwyaf o wybodaeth a gaiff y sefydliadau hyn er mwyn iddynt adeiladu darlun gwell a chynyddu dealltwriaeth o’r poblogaethau o ddraenogod a’r hyn y gallwn ei wneud i helpu.