Pobl ifanc yn helpu i ddathlu trawsnewid Canolfan Ieuenctid Cwm

Dathlwyd gwaith adnewyddu Canolfan Ieuenctid Cwm gwerth £200,000 mewn digwyddiad lansio arbennig neithiwr.

Diolch i gyllid Ysgolion sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned gan raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, mae'r ganolfan wedi cael trawsnewidiad sy'n cynnwys ffenestri, llawr, to, toiledau, drws ffrynt, trydan, larymau tân, larymau diogelwch, cegin a band eang newydd.

Mae'r cyllid hefyd wedi galluogi Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent i brynu adnoddau ac offer digidol newydd, gan gynnwys gosod gorsaf radio ac offer podledu. Mae'r ychwanegiadau hyn wedi cefnogi datblygu cynigion digidol poblogaidd ac effeithiol, gan wella sut mae pobl ifanc yn ymgysylltu â chyfryngau creadigol a chyfathrebu. Maent hefyd wedi gallu prynu byrddau biliards, bwrdd ping pong, bwrdd dartiau, a setiau teledu.

Ymunodd swyddogion Cyngor Blaenau Gwent â gwesteion a gwleidyddion yn y lansiad, gan fanteisio ar y cyfle i weld y cyfleusterau wedi'u hailwampio drostynt eu hunain a hefyd ymgysylltu â phobl ifanc a oedd yn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau, gan gynnwys gweithdy radio, coginio a DJio.

Yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer clwb ieuenctid poblogaidd a gynhelir ddwywaith yr wythnos, mae'r ganolfan bellach hefyd yn cael ei defnyddio gan Wasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent i gyflwyno prosiectau addysg amgen, gan gynnwys darpariaeth *EOTAS i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn *NEET neu ymddieithrio o ddysgu ffurfiol. Yn ogystal, mae'r ganolfan yn cynnal mentrau wedi'u targedu sy'n cefnogi digartrefedd a llesiant pobl ifanc, gan ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol i bobl ifanc agored i niwed.

Meddai’r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yng Nghyngor Blaenau Gwent:

“Roedd yn hyfryd gweld y bobl ifanc yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi’r ganolfan wedi’i hadnewyddu. Mae ein pobl ifanc yn haeddu’r gorau ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y cyfleuster lleol pwysig hwn. Nid yn unig y mae hwn yn ganolfan i bobl ifanc fwynhau a chymdeithasu â’i gilydd, mae hefyd yn fan lle gall ein pobl ifanc agored i niwed gael mynediad at addysg, cymorth a chyngor.”

Fe wnaeth y Cynghorydd George Humphreys, aelod ward Cwm a chyn-weithiwr ieuenctid ei hun, helpu i lansio'r cyfleuster newydd. Meddai:

“Mynychais y clwb ieuenctid hwn fy hun ac mae’n dwyn i gof nid yn unig lawer o atgofion o hwyl a chwerthin, ond hefyd addysg anffurfiol. Yn ogystal, cefais y fraint o weithio ochr yn ochr â staff y Cyngor sy’n darparu gwasanaethau ieuenctid yn y fwrdeistref sirol, ac er y gallai amseroedd fod wedi newid, yr un yw’r nodau a’r canlyniadau.

“Mae grymuso pobl ifanc heddiw yn adeiladu cymunedau cryfach yfory. Mae buddsoddi mewn pobl ifanc yn golygu buddsoddi yn y dyfodol, dyna pam mae clybiau ieuenctid a staff ieuenctid mor arbennig. Mentor da yw rhywun sy'n gweld mwy o dalent a gallu ynoch chi nag yr ydych chi'n ei weld eich hun, felly diolch i bawb sy'n ymwneud â rhoi nid yn unig gyfleuster 21ain ganrif i'n cymuned, ond popeth a ddaw yn ei sgil.”

  • NEET (Pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant)
  • EOTAS (Addysg Heblaw yn yr Ysgol)