Plant a phobl ifanc yn cael eu cydnabod mewn Gwobrau Cymunedol ysgol

Mae Cymuned Ddysgu Abertyleri wedi dathlu cyflawniadau a chyfraniadau rhyfeddol ei dysgwyr yn eu Noson Wobrwyo Gymunedol gyntaf.

Daeth y digwyddiad â myfyrwyr, teuluoedd, staff a phartneriaid cymunedol ynghyd i arddangos tosturi, ymrwymiad ac ysbryd cymunedol dysgwyr, ac i ddiolch iddynt am eu hymdrechion.

Meddai’r Pennaeth Tracey Jarvis:

"Roedd yn noson hyfryd a wnaeth ein hatgoffa mewn ffordd bwerus o'r hyn sy'n gwneud ein hysgol ni’n wirioneddol arbennig: ein plant a'n pobl ifanc anhygoel ac ysbrydoledig. Roeddwn i mor falch o glywed popeth am eu cyflawniadau, sydd wir yn ein hatgoffa o'r hyn y gellir ei gyflawni pan mae cymuned fel Abertyleri yn dod at ei gilydd. Da iawn, bawb."

Meddai Cadeirydd y Llywodraethwyr, Darryl Tovey:

"Diolch i bawb a helpodd i wneud y digwyddiad hwn mor gofiadwy - o gyflwynwyr a threfnwyr i deuluoedd a ffrindiau a ymunodd â ni i ddathlu. Ac yn bwysicaf oll, llongyfarchiadau i enillwyr y gwobrau, a phob disgybl sy'n parhau i wneud ein hysgol a'n cymuned yn llefydd mor ysbrydoledig."

Rhestr lawn yr enillwyr:

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn: Cerys Palmer
Dysgwr sy’n cynnig cefnogaeth dosturiol ddiwyro gydag agwedd gadarnhaol. Mae Cerys yn gwirfoddoli ar gyfer Llwybr Anabledd, gan helpu plant 4-12 oed i nofio'n ddiogel a chael hwyl. 

Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig: Niamh Tetley Lanah-Mai Coles, Ava Staley, Darcie Gallier-Morgan ac Amelia Williams 
Mae gwaith tîm ac ysbryd y grŵp hwn wedi dod â chynhesrwydd a chefnogaeth i lawer o brosiectau cymunedol. Mae'r merched hyn yn stopio bob bore ar eu ffordd i'r ysgol i sgwrsio â gwraig sydd â dementia. Bob bore, maen nhw'n gwneud yn siŵr ei bod hi’n iawn ac yn treulio amser yn siarad â hi. Mae teulu'r wraig yn dweud ei bod hi'n edrych ymlaen at weld a sgwrsio gyda'r merched bob dydd ac mae hi'n aros wrth y ffenestr neu'r drws nes iddi weld y merched. Mae'r merched wedi mynd ag anrhegion iddi, blodau adeg y Nadolig, ac os ydyn nhw’n pasio yn ystod gwyliau'r ysgol, maen nhw'n galw gyda hi.

Gwobr Gweithred o Garedigrwydd: Evan Small 
Mae gweithredoedd tawel Evan o garedigrwydd yn aml yn mynd heb sylw ond maen nhw wedi cyffwrdd â llawer o galonnau - o gefnogi cyd-ddisgyblion i wirfoddoli ei amser heb feddwl ddwywaith. Yn ddiweddar cafodd ffrind i deulu Evan ddiagnosis o ganser terfynol. Roedd y wraig hon yn caru clwb pêl-droed Everton. Cysylltodd Evan â sawl clwb pêl-droed i gael llythyrau o gefnogaeth iddi, cardiau wedi’u llofnodi a ffotograffau. Ei gwir gariad oedd clwb pêl-droed Everton. Cysylltodd Evan â'r clwb a gofyn am grys gêm wedi'i lofnodi gan ei hoff chwaraewr, Seamus Coleman. Talodd gyda’i arian ei hun i gael y crys wedi’i anfon ato. Gwisgodd hi’r crys gyda chymaint o falchder. Yn anffodus, bu farw'r wraig yn ddiweddar, a soniwyd am Evan yn ei hangladd am y llawenydd a ddaeth iddi.

Gwobr Eco-Ryfelwr: Lillian Tinker 
Mae Lillian Tinker wedi trawsnewid ymagwedd ei hysgol at ailgylchu, gan lansio menter sydd wedi cynyddu ymdrechion ailgylchu yn sylweddol a chodi ymwybyddiaeth ymhlith ei chyfoedion am leihau gwastraff ac ailddefnyddio adnoddau. Ers bod yn eco-ryfelwr, mae hi wedi helpu gyda phrosiect Cymru yn ei Blodau yr ysgol. Mae hi hefyd wedi casglu sbwriel yn llynnoedd Cwmtyleri ac yn ddiweddar aeth i ŵyl Glastonbury lle cymerodd ran yng nghaeau Greenpeace. 

Gwobr Gofalwr Ifanc: Kailen Williams
Mae Kailen Williams yn cydbwyso’i fywyd ysgol, ei fywyd personol a gofal gyda dewrder a gosgeiddrwydd rhyfeddol. Mae Kailen yn gofalu am ei fam-gu sy'n ddall, ac roedd yn gofalu am ei dad-cu cyn iddo farw o MND.

Gwobr Arwr Cymunedol: Dosbarth 10LS 
Mae Dosbarth 10LS yn grŵp rhyfeddol o ddysgwyr sydd wedi dod at ei gilydd fel tîm i greu newid parhaol. Trwy fentrau amrywiol, maent wedi gwella eu hamgylchedd lleol a chryfhau ysbryd cymunedol, gan ddangos pŵer gwaith tîm a phwrpas cyffredin. Pan achosodd storm dirlithriad dinistriol yng Nghwmtyleri y llynedd, effeithiwyd ar lawer o deuluoedd, gan gynnwys dau o'u cyd-ddisgyblion eu hunain. Wedi'u heffeithio’n ddwfn gan yr effaith ar eu cyfoedion, teimlodd myfyrwyr 10LS fod angen iddynt weithredu. Penderfynon nhw mai'r ffordd orau o gefnogi'r rhai mewn angen oedd darparu prydau cartref cynnes – gweithred o ofal ac undod. Gwnaethant baratoi prydau ychwanegol a'u rhoi gyda Chaffi Tyleri, gan sicrhau bod gan breswylwyr fynediad at faeth mewn cyfnod anodd.  Mae eu gweithredoedd yn adlewyrchu ymdeimlad cryf o empathi, ysbryd cymunedol, ac arweinyddiaeth y tu hwnt i'w hoedran. Trodd 10LS dosturi yn weithredu, ac ymateb anhunanol. 

Gwobr y Celfyddydau a Diwylliant: Oliver Harmer 
Mae Oliver Harmer yn gerddor ifanc talentog. Mae Oliver yn chwarae'r cornet ac wedi perfformio'n eang gyda'r band pres lleol yn cefnogi digwyddiadau cymunedol. Mae Oliver hefyd yn aelod o AYDMS ac mae wedi perfformio sawl deuawd ac unawd mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys yn y MET, Abertyleri.

Gwobr Cydnabod Disgybl: Isabella Mathelin
Mae ymroddiad ac arweinyddiaeth Isabella wedi gosod esiampl wych i'w chyfoedion ac wedi cyfrannu'n fawr at ysbryd a llwyddiant yr ysgol. Mae hi wedi bod yn gwirfoddoli mewn gwersi nofio anabledd yn Aneurin Leisure Trust dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddangos ymroddiad a gwasanaeth rhagorol. Mae Isabella wedi dangos tosturi, amynedd ac ymrwymiad yn gyson, gan wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau'r unigolion y mae'n eu cefnogi. Mae ei hagwedd gadarnhaol a'i pharodrwydd i fynd yr ail filltir wedi ei gwneud hi’n rhan amhrisiadwy o'r tîm ac yn fodel rôl go iawn yn y gymuned.

Gwobr Hyrwyddwr Elusennol: Archie Williams 
Mae Archie Williams wedi bod yn gefnogwr diflino i elusennau lleol, gan drefnu digwyddiadau codi arian ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Mae ei frwdfrydedd a'i arweinyddiaeth wedi helpu i godi arian mawr ei angen ac ymwybyddiaeth o’r clefyd niwronau motor. Yn ddiweddar, rhedodd 5k a chodi dros £2000 i 'My Name's Doddie Foundation'. Ynghyd â'i rieni, mae Archie hefyd wedi sefydlu ymddiriedolaeth o'r enw MNDEFIANCE, ac mae wedi cerdded Pen-y-fan i godi arian i MND ochr yn ochr ag aelodau eraill y Defiance Army.

Gwobr Personoliaeth Gymunedol y Flwyddyn: Erin Grote 
Ers ei bod yn bump oed, mae Erin wedi bod yn defnyddio iaith arwyddion i gyfathrebu â'i brawd iau. Mae'r bond hyfryd hwn maen nhw'n ei rannu wedi'i adeiladu ar gariad, dealltwriaeth ac amynedd. Ond nid oedd ei thalent naturiol a'i thosturi yn stopio gartref. Rhannodd ei gwybodaeth yn frwdfrydig gyda chyd-ddisgyblion ac athrawon, gan greu eiliadau dysgu hwyl, cynhwysol a ddaeth â ni i gyd yn agosach at ein gilydd. Mae ei charedigrwydd a'i harweinyddiaeth wedi ysbrydoli llawer. Yn 2024, aeth y ddysgwraig hon â'i thalent anhygoel i lwyfan ALC's Got Talent, gan gystadlu ochr yn ochr â dysgwyr o'r pedwar campws. Gwnaeth ei pherfformiadau, yn arwyddo i wahanol ganeuon, swyno'r gynulleidfa a'r beirniaid fel ei gilydd - ac enillodd hi’r ffeinal!