Penodiadau'r Cyngor yn y Cyfarfod Blynyddol

Rydym yn adeiladu rhywbeth cryfach, mwy gwydn ac yn fwy ymatebol i anghenion y bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu' - Arweinydd y Cyngor Stephen Thomas wedi'i ailethol yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor heddiw.  

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Cadarnhawyd penodiadau gwleidyddol allweddol i Gabinet y cyngor, pwyllgorau a chyrff allanol y cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod. 

Penodwyd y Cynghorydd Chris Smith yn Aelod Llywyddol a bydd yn cadeirio cyfarfodydd y cyngor, gyda'r Cynghorydd David Wilkshire wedi'i benodi'n Ddirprwy Lywydd.

Cafodd y Cynghorydd Steve Thomas ei ailethol fel Arweinydd y Cyngor a bydd hefyd yn gyfrifol am Adnoddau Corfforaethol.

Cafodd y Cynghorydd Helen Cunningham ei hailethol yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor a bydd hefyd yn dal y portffolio ar gyfer Oedolion a Chymunedau.

Y rhestr lawn o benodiadau cabinet yw:

  • Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau – Y Cynghorydd Helen Cunningham
  • Aelod Cabinet Adnoddau Corfforaethol – Y Cynghorydd Steve Thomas
  • Aelod Cabinet Economi a Lleoedd – Y Cynghorydd John Morgan
  • Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd – Y Cynghorydd Sue Edmunds
  • Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a Gwasanaethau'r AmgylcheddY Cynghorydd Tommy Smith

Penodwyd y cadeiryddion canlynol i'r Pwyllgorau Craffu:

  • Oedolion, Cymunedau a Lles – Y Cynghorydd Haydn Trollope (Cadeirydd) a'r Cynghorydd Ellen Jones (Is-gadeirydd)
  • Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd – Y Cynghorydd Wayne Hodgins (Cadeirydd) a’r Y Cynghorydd Derrick Bevan (Is-gadeirydd)
  • Datblygu Economaidd a Rheoli Amgylcheddol – Y Cynghorydd Jacqueline Thomas (Cadeirydd) Y Cynghorydd Chris Smith (Is-gadeirydd)
  • Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau – Y Cynghorydd Joanna Wilkins (Cadeeirydd) a’r Y Cynghorydd Dean Woods (Is-gadeirydd)

Penodwyd aelodau hefyd i gadeirio'r pwyllgorau statudol canlynol:

  • Y Pwyllgor Cynllunio – Y Cynghorydd Lisa Winnett (Cadeirydd) Y Cynghorydd Peter Baldwin (Is-gadeirydd)
  • Pwyllgorau Trwyddedu Statudol a Chyffredinol – Y Cynghorydd Lisa Winnett (Cadeirydd) Y Cynghorydd Peter Baldwin (Is-gadeirydd)
  • Y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd – Y Cynghorydd John Hill (Cadeirydd) a’r Y Cynghorydd Ellen Jones (Is-gadeirydd)

Wrth dderbyn ei benodiad fel Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas:

"Mae'n anrhydedd i mi gael fy ailethol fel Arweinydd ac rwy’n ddiolchgar iawn am yr ymddiriedaeth a'r gefnogaeth a ddangoswyd ar draws y siambr. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi dod â chynnydd gwirioneddol a heriau sylweddol – rydyn ni’n gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn gynaliadwy ac yn ariannol ddiogel, ac rydyn ni wedi bod yn delio ag effeithiau dinistriol Storm Bert a'r tirlithriad yng Nghwmtyleri.  Trwy'r cyfan, mae staff ein cyngor wedi mynd yr ail filltir i'n cymunedau.

"Rydw i hefyd yn falch o'r ffordd y mae ein partneriaeth â Chyngor Torfaen yn datblygu - mae'r hyn a ddechreuodd drwy rannu Prif Weithredwr yn datblygu'n gydweithrediad aeddfed rhwng ein huwch swyddogion, gyda photensial gwirioneddol i sicrhau canlyniadau gwell i Flaenau Gwent.

"Mae ’na waith i'w wneud o hyd, ond rwy'n credu ein bod ni'n adeiladu rhywbeth cryfach, mwy gwydn a mwy ymatebol i anghenion y bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu."

Gwnaeth y cyngor hefyd enwebiadau i gyrff allanol gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Y Cynghorydd Peter Baldwin); Heddlu Gwent (Y Cynghorydd Jen Morgan) a Bwrdd Tai Cymunedol Tai Calon (y Cynghorydd Sonia Behr a'r Cynghorydd Ellen Jones).