Penaethiaid yn dod ynghyd mewn digwyddiad ymwybyddiaeth Gwrth-Hiliaeth

Mae Penaethiaid o bob rhan o Flaenau Gwent wedi mynychu Diwrnod Ymwybyddiaeth Gwrth-Hiliaeth yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri.

Roedd y diwrnod yn gydweithrediad rhwng Cyngor Blaenau Gwent, DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol) a Chymuned Ddysgu Abertyleri.

Cymerodd y Penaethiaid ran mewn sesiwn dysgu proffesiynol gyda DARPL, sy'n cefnogi arweinwyr ysgol ar draws system Addysg Cymru sydd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gwnaethant gyflwyniad ar sut y gellir cefnogi arweinwyr ysgol i wella ac ymgorffori gwrth-hiliaeth ar draws yr ysgol a'r cwricwlwm cyfan. Mwy am DARPL yma.

Cafwyd cyflwyniadau gan ysgolion ar y gwaith da maen nhw wedi bod yn ei wneud ar wrth-hiliaeth gan Gymuned Ddysgu Abertyleri; Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr ac Ysgol Gynradd Coed-y-Garn ar waith ysgolion clwstwr yn ardal Brynmawr/Nant-y-glo.

Mae holl ysgolion Blaenau Gwent yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor ac yn cael eu cefnogi gan y Cyngor gyda'u cyfrifoldebau gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb a rhoddodd y diwrnod ddiweddariadau ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor a'r Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth ar gyfer Addysg, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu, sy'n cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Bobl ac Addysg yn y Cyngor:

"Mae Cyngor Blaenau Gwent a'n harweinwyr ysgol wedi eu huno yn y neges na fydd hiliaeth neu ragfarn o unrhyw fath yn cael eu goddef yn ein hysgolion nac yn ein cymunedau, ac rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'n gilydd i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant fel na fydd casineb yn ennill.

"Mae gwrth-hiliaeth yn symud y tu hwnt i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a 'pheidio â bod yn hiliol' i wrthwynebu hiliaeth yn ei holl ffurfiau, herio, a bod yn eiriolwyr dros newid. Gall datblygu dull gwrth-hiliol gymryd amser, myfyrdod ac ymrwymiad ac rwy'n gwybod bod ein hysgolion yn ymrwymedig i feithrin dull ysgol gyfan i sicrhau'r profiadau gorau i'n plant a'n pobl ifanc."

Meddai Lisa Thomas, Pennaeth Ysgol Gynradd Georgetown a Chadeirydd y Grŵp Penaethiaid Cynradd ym Mlaenau Gwent:

"Mae polisi gwrth-hiliaeth, sydd wedi'i ymgorffori yn arfer pob ysgol ac sy’n gyson ar draws yr awdurdod lleol, yn sylfaen i system addysg gynhwysol. Roedd mor ddefnyddiol gweithio gyda staff o DARPL a chydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor i fyfyrio ar ein polisïau presennol, i rannu arferion effeithiol a gweithio ar y cyd tuag at adeiladu Cymru Wrth-Hiliol."