Bob mis Tachwedd rydym yn dathlu noson ‘Guto Ffowc’ gyda phobl yn mynychu arddangosiadau tân gwyllt a choelcerthi. Er y gall ymddengys nad yw un noswaith o’r flwyddyn yn mynd i achosi fawr o niwed, nid yw rhai o’r tocsinau byth yn chwalu ac yn cael effaith barhaus ar yr amgylchedd. Gallant hefyd achosi problemau iechyd i rai sy’n anadlu aer wedi ei lygru, yn arbennig bobl sydd eisoes â phroblemau anadlu.
Mae’n anghyfreithlon llosgi’r rhan fwyaf o fathau o eitemau gwastraff tebyg i deiars, pren wedi ei drin, plastig, tanwydd, olew, metel a gwydr. Dylai unrhyw ddeunydd ar gyfer y goelcerth fod yn wastraff glân heb fod yn fasnachol. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynghori mai dim ond gwastraff gardd sych, pren/coed heb ei drin ac ychydig o ddail y dylid eu llosgi.
Nid oes unrhyw ddeddf yn erbyn cael coelcerth ond mae’n drosedd i’r mwg neu arogl mwg achosi niwsans. Yn ogystal â lefelau llygredd aer lleol, mae’n bosibl y gall y mwg effeithio ar y gallu i weld ar ffyrdd cyfagos gan achosi amodau gyrru peryglus.
Peidiwch ag anghofio y gall anifeiliaid gael eu hanafu gan y marwydos ac yn aml mae tân yn eu dychryn. Gwnewch yn siŵr bob amser nad oes anifeiliaid bach fel draenogod wedi cuddio yn y goelcerth cyn i chi ei chynnau.
Caiff preswylwyr Blaenau Gwent eu hatgoffa am yr effaith y gall llosgi gwastraff mewn coelcerthi ei gael ar yr amgylchedd. Dylid hefyd ystyried y deunyddiau y dylid eu llosgi a’r broblem bosibl y gall mwg ei achosi yn yr ardal o amgylch.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd:
“Y ffordd fwyaf diogel o ddathlu Noson Tân Gwyllt yw mynychu digwyddiad cyhoeddus wedi ei drefnu. Os ydych yn bwriadu cael coelcerth y penwythnos yma, yna meddyliwch yn ofalus beth fyddwch yn ei losgi. Nid oes unrhyw fath o goelcerth yn dda i’r amgylchedd felly ceisiwch fod mor ‘eco-gyfeillgar’ ag y medrwch a chofio ei bod yn drosedd gwaredu â gwastraff mewn ffordd a all achosi llygredd i’r amgylchedd.”
Dolenni Defnyddiol:
Cyfoeth Naturiol Cymru