Murlun Graffiti Pobl Ifanc i Fynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ym Mlaenau Gwent

Fel rhan o dasglu newydd a sefydlwyd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent wedi cynnal prosiect ar gyfer pedwar o bobl ifanc i greu murlun gwaith celf graffiti yn y maes parcio aml-lawr newydd ar hen safle’r gwaith dur yng Nglynebwy. Nod y prosiect hwn yw lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal ac atal fandaliaeth, gan anelu at roi parch newydd i bobl ifanc at eu cymuned.

Gwyliwch yma.

Credyd: BH Productions, Alexander Gold

Dros nifer o sesiynau, bu pedwar person ifanc sy’n gweithio ar hyn o bryd gyda staff y gwasanaeth ieuenctid yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn gyfrifol am benderfynu a chreu cysyniad ar gyfer darn o waith celf graffiti i’w gynnwys ar wal yn y maes parcio cyfagos. Gan gymryd ysbrydoliaeth o safle’r hen waith dur, penderfynodd y bobl ifanc ar thema hanes lleol a chymuned, gan gynnwys yr hen felin ddur integredig, mwyngloddio, rygbi, a mwy. Trosglwyddwyd syniadau ac ysbrydoliaeth i artist lleol, Anthony Smith, i’w gynorthwyo wrth ddylunio a chreu’r gwaith.

Dros gyfnod o ddau ddiwrnod, gweithiodd y bobl ifanc yn galed i adeiladu eu murlun, gan ddefnyddio stensiliau, paent chwistrell, a thechnegau llaw rydd.

Credyd: Alexander Gold

Dywedodd y bobl ifanc eu bod yn teimlo bod y prosiect wedi bod o fudd iddynt mewn amrywiol ffyrdd:

“Mae’r prosiect hwn wedi fy helpu i reoli fy dicter; dydw i ddim yn mynd i drwbl cymaint y tu allan i’r ysgol ac rydw i wedi dysgu sgìl newydd.”

“Mae wedi fy helpu i wella fy hyder.”

“Rwyf wedi mwynhau helpu’r gymuned ac roedd yn llawer o hwyl i’w wneud.”

Hoffem ddiolch yn bersonol i’r bobl ifanc am eu hamser a’u hymdrech wrth greu’r murlun, ynghyd â staff y gwasanaeth ieuenctid, Josh Bowen a Lauren Dobbs, am eu cefnogaeth a’u hymroddiad i’r prosiect. Wrth symud ymlaen, nod Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yw rhedeg yr un prosiect ar draws sawl ardal yn y fwrdeistref, gan annog pobl ifanc i gymryd balchder a chyfrifoldeb yn eu cymuned.


Credyd: Alexander Gold

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn rhan o dasglu newydd rhwng Cyngor Blaenau Gwent, Heddlu Gwent, a Chartrefi Cymunedol Tai Calon. Mae’r tasglu’n gweithio ar y cyd, gan gymryd y camau tuag at leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn unrhyw ymddygiad sy’n achosi neu’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i un neu fwy o bobl. Gall gynnwys niwsans sŵn, fandaliaeth, sbwriel, tipio anghyfreithlon, delio cyffuriau, brawychu, aflonyddu a throseddau casineb. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau a chreu ymdeimlad o ofn ac ansicrwydd.