Mesurau cenedlaethol newydd ar y Coronafeirws i’w cyflwyno yng Nghymru

Daw’r cyfnod clo byr 17-diwrnod i ben yng Nghymru ddydd Llun 9 Tachwedd ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o reoliadau newydd ar draws Cymru fydd yn weithredol o’r wythnos nesaf ymlaen.

O ddydd Llun:

• Gall pob safle, tebyg i fwytai, caffes, tafarndai a champfeydd, a fu ar gau yn ystod y cyfnod clo byr, ail-agor gyda mesurau diogelwch perthnasol ar waith.

• Dylai pobl ymweld â thafarndai, caffes a bwytai mewn grŵp mor fach ag sydd modd ac i lawer, dim ond y bobl y maent yn byw gyda nhw fydd hyn. Bydd y rheoliadau yn galluogi grwpiau o hyd at 4 unigolyn i gwrdd mewn gosodiad a gaiff ei reoli tebyg i fwyty, caffe neu dafarn. Mae hyn yn amodol ar y mesurau diogelwch caeth a drafodwyd gyda’r sector lletygarwch, yn cynnwys archebu ymlaen llaw, slotiau gyda chyfyngiad amser a dilysu adnabyddiaeth. Bydd y cyfyngiad 10pm ar werthu alcohol yn parhau yn ei le.

• Bydd yr angen i gynnal pellter cymdeithasol 2 fetr a gwisgo masgiau wyneb mewn gofodau cyhoeddus caeedig, yn cynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus a thacsis, yn parhau

• Dylai pobl barhau i weithio gartref lle’n bosibl

• Gall dwy aelwyd yn unig ffurfio ‘swigen’ estynedig. Dim ond yn eu cartrefi eu hunain y dylai pobl gwrdd â’u ‘swigen’ a dim ond dwy aelwyd all ffurfio ‘swigen’. Os oes un person o’r naill aelwyd neu’r llall yn datblygu symptomau, dylai pawb hunanynysu ar unwaith

• Gall hyd at 15 o bobl gymryd rhan mewn gweithgaredd wedi’i drefnu dan do a hyd at 30 mewn gweithgaredd wedi’i drefnu yn yr awyr agored, cyn belled ag y dilynir rheolau ymbellhau cymdeithasol, glanweithdra dwylo a mesurau eraill diogelwch Covid. Ni all y gweithgareddau hyn gynnwys gwerthu neu yfed alcohol. Bydd eithriad ar wahân i hyd at 15 o bobl fynychu derbyniad ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd, ond dylai hyn olygu pryd eistedd i lawr.

• Dylai pobl barhau i osgoi teithio heb fod yn hanfodol i’r graddau mwyaf posibl. Ni fydd cyfyngiadau cyfreithiol ar deithio o fewn Cymru ar gyfer preswylwyr, ond dylai teithio rhyngwladol fod ar gyfer rhesymau hanfodol yn unig.

• Tra bod y cyfnod clo mewn grym yn Lloegr, caiff teithio i ac o Loegr eu gwahardd gan reoliadau Lloegr os nad yw hynny am reswm hanfodol tebyg i waith neu addysg. Ni chaniateir teithio rhyngwladol heb esgus rhesymol tebyg i waith, neu addysg. Ni chaniateir teithio rhyngwladol heb esgus rhesymol.

• Bydd pob ysgol ar agor fel arfer

• Mae eglwysi a mannau addoli yn ailddechrau gwasanaethau

• Bydd canolfannau cymunedol ar gael i grwpiau bach gwrdd yn ddiogel dan do ym misoedd y gaeaf

Mae mwy o wybodaeth am y rheolau newydd ar gael ar dudalen Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru – https://llyw.cymru/rheoliadau-coronafeirws-canllawiau