Mae gwaith bellach wedi ei gwblhau ar 8 o fannau gwefru deuol i gerbydau trydan ym Mlaenau Gwent, ac maent ar gael i’w defnyddio.
Mewn partneriaeth gydag awdurdodau lleol eraill yng Ngwent, cafodd y Cyngor gyfran o £465,000 o gyllid gan Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (OLEV) Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddechrau datblygu’r seilwaith ar gyfer cerbydau’r dyfodol. Caiff cyfanswm o 64 o fannau gwefru trydan eu gosod ar draws Gwent.
Cafodd cynnig ar y cyd ei baratoi gan yr awdurdodau, gyda chefnogaeth yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni a’i gyflwyno gan Gyngor Blaenau Gwent. Cafodd y prosiect ei gefnogi hefyd gan Lywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ym Mlaenau Gwent cafodd mannau gwefru newydd eu gosod mewn meysydd parcio yn:
• Colliers Row, Glynebwy, NP23 6ES
• Stryd y Brenin/Stryd Worcester, Brynmawr, NP23 4FD
• Stryd Fawr, Blaenau, NP13 3AF
• Canolfan Chwaraeon Abertyleri, NP13 1QD
Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Blaenau Gwent:
“Mae ein hymrwymiad fel Cyngor i ddiogelu’r amgylchedd a helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn parhau’n gryf a rydym yn parhau i gefnogi ynni adnewyddadwy a symud tuag at ddod yn sefydliad niwtral o ran carbon yn y dyfodol. Mae defnydd cerbydau trydan yn bwysig iawn yn y weledigaeth hon a rydym yn hynod falch i fod wedi gweithio gyda phartneriaid ar draws y rhanbarth ar y prosiect cyffrous hwn, sy’n garreg filltir wrth sefydlu seilwaith ar draws Gwent fydd yn rhoi cyfle i breswylwyr yrru cerbydau trydan.”
Bydd y Cyngor hefyd yn ymgynghori yn y dyfodol agos am gyflwyno Gorchmynion Rheoli Defnydd ar gyfer y baeau er mwyn sicrhau y cânt eu defnyddio ar gyfer y diben y bwriadwyd iddynt sef gwefru cerbydau.
- Mannau Gwefru Cerbydau Trydan – Cwestiynau Cyffredin