#MaethuLleol a gwneud gwahaniaeth fydd yn parhau am oes

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn ymuno ag awdurdodau eraill ledled Gwent i hyrwyddo ymgyrch maethu newydd yn ystod mis Hydref sy’n anelu i annog mwy o deuluoedd ac unigolion i gyflwyno eu hunain a maethu plentyn neu berson ifanc mewn angen

Yn rhedeg rhwng 12 – 31 Hydref 2020, bydd yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ar-lein yn hyrwyddo llawer o fanteision unigryw dod yn ofalwr maeth gyda’r awdurdod lleol ac yn dathlu deilliannau cadarnhaol maethu plant.

Gwyddom fod effaith COVID-19 wedi newid bywydau llawer o bobl ym Mlaenau Gwent.

Gydag ansicrwydd yn parhau am swyddi, cyfnodau clo a gorfod treulio mwy o amser gartref, mae wedi rhoi cyfle i bawb roi mwy o sylw i’r pethau sydd bwysicaf iddynt.

P’un ai yw hynny’n treulio mwy o amser gwerthfawr gartref gyda’r teulu, dechrau gyrfa newydd neu wneud rhywbeth sy’n ysbrydoli fydd nid yn unig yn cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau nhw eu hunain ond ar eraill hefyd, mae’n ddi-os y bu’r pandemig yn foment ddiffiniol i lawer.

Dywedodd y Cynghorydd John Mason, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae maethu plentyn neu berson ifanc yn hollol werth chweil yn arbennig yn y cyfnod anodd hwn pan ydym eisiau cynnig amgylchedd lle gallant deimlo’n ddiogel, eu galluogi i fod nhw eu hunain, cynnig cefnogaeth ac arweiniad iddynt a datblygu perthynas gyfeillgar ac ymddiriedus ... bydd yn werth y byd iddynt”.

Gall maethu wirioneddol wneud gwahaniaeth mawr i’w bywydau nhw, a chithau; mae’n beth gwych.

Mae Blaenau Gwent yn edrych am bob math o ofalwr felly peidiwch gadael i rywbeth bach fod yn rhwystr. Mae cyfleoedd maethu ar gael i bobl o bob cefndir os oes gennych natur garedig, yna rydych yn bendant yn berson iawn i faethu.”

Dywedodd Angela, gofalwr maeth:

“Fel gofalwr maeth newydd bu’n her a hefyd yn werth chweil i ddysgu am fy mhlentyn maeth ar eu cyflymder eu hunain. Rwyf hefyd wedi dod i sylweddoli sut i fod yn rhiant mewn ffordd wahanol.”

I gael mwy o fanylion ffoniwch Dîm Maethu Blaenau Gwent ar 01495 357792 neu anfon e-bost atom i fostering@blaenau-gwent.gov.uk neu edrych ar y wefan: www.blaenau-gwent.gov.uk/fostering