Mae’n rhaid i bawb feddwl sut y gallant Ddiogelu Cymru ar Noson Tân Gwyllt eleni a pheidio lledaenu’r coronafeirws

Rydym yng nghanol pandemig sydd wedi arwain at ganslo llawer o ddigwyddiadau. Mae’r gwasanaethau argyfwng yn paratoi am noson brysurach nag arfer wrth i bobl ddathlu noson tân gwyllt yn eu gerddi eu hunain.

Mae tân gwyllt yn ffrwydron a gallant godi ofn ar bobl, plant ac yn arbennig anifeiliaid a’r henoed. Mae’n bwysig mai dim ond yn ôl cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd a’r cod tân gwyllt y cânt eu defnyddio a dylid eu trin gyda gofal a pharch.

Gwaetha’r modd, bydd y coronafeirws a’r cyfyngiadau sydd ar waith yn effeithio ar noson Tân Gwyllt, fel llawer o ddigwyddiadau eraill. Er ein bod eisiau i bobl fwynhau eu hunain, mae’n bwysig fod pawb yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru a bod yn ystyriol a dangos parch at gymdogion a all fod yn hunanynysu. Mae’n rhaid i bawb feddwl sut y gallant Ddiogelu Cymru ar Noson Tân Gwyllt a pheidio lledaenu’r coronafeirws.

Pethau pwysig i’w hystyried
• Gall tân gwyllt fod yn beryglus ac o’u cyfuno gyda risgiau ychwanegol coronafeirws dylech feddwl yn ofalus iawn cyn prynu rhai eleni. Dim ond tân gwyllt cyfreithiol y dylech eu prynu.
• Os ydych yn prynu tân gwyllt ar gyfer eich defnydd eich hun, yna dylech bob amser ddilyn y Côd Tân Gwyllt (gweler islaw). 
• Mae cyfnod clo cenedlaethol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae hyn yn golygu y byddech yn torri’r gyfraith drwy gael parti tân gwyllt yn eich tân neu ardd gydag ymwelwyr na chaiff eu caniatáu. Byddwch hefyd yn rhoi pawb mewn risg o ddal coronafeirws.
• Rhaid i chi beidio cynnau tân gwyllt mewn parciau neu ofod agored cyhoeddus. Caiff hyn ei wahardd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru.
• Dim coelcerthi mewn gerddi. Mae’r Gwasanaeth Tân, yr heddlu ac awdurdodau lleol yn cynghori’r cyhoedd yn gryf rhag cynnal coelcerthi preifat.
• Ni chaniateir i bobl yng Nghymru ymgynnull gydag unrhyw tu allan i’w haelwyd, os nad ydynt yn aelwyd person sengl neu riant sengl, lle gallant ffurfio aelwyd estynedig gydag un aelwyd arall.
• Cadw anifeiliaid anwes dan do.
• Gall mwg tân hefyd achosi anhwylderau yn y trwyn a’r gwddf, y croen a’r llygaid, gan achosi pesychu, gwichian y frest, colli anadl a phoen yn y frest. Gall mwg tân wneud pobl gydag asthma a chlefydau anadlol eraill yn wael. Mae’r bobl hyn hefyd mewn mwy o risg o salwch difrifol o COVID-19.
• Mewn argyfwng ffoniwch 999.
• Mae cwestiynau cyffredin ar gyfnod clo byr Llywodraeth Cymru ar gael yma.

Y Cod Tân Gwyllt
• Gwnewch yn siŵr fod yr holl dân gwyllt yn cydymffurfio gyda safonau cymeradwy a rheoliadau.
• Peidiwch ag yfed alcohol os ydych yn cynnau tân gwyllt.
• Cadwch dân gwyllt mewn blwch caeedig a dilyn y cyfarwyddiadau’n ofalus wrth eu defnyddio.
•  Dylid cynnau tân gwyllt ar hyd braich yn defnyddio tapr a sefyll ymhell yn ôl.
•  Peidiwch byth â dychwelyd atynt cawsant eu cynnau. Os nad yw tân gwyllt wedi cychwyn, gallai ddal i ffrwydro.
• Peidiwch byth â thaflu tân gwyllt na’u rhoi yn eich poced.
• Parchwch eich cymdogion – peidiwch cynnau tân gwyllt yn hwyr y nos a chofiwch fod cyfreithiau i’w dilyn.
• Byddwch yn ofalus gyda sbarclers – peidiwch byth eu rhoi i blant dan bump oed.
• Mae sbarclers yn dal i fod yn boeth hyd yn oed pan fyddant wedi diffodd felly rhowch nhw mewn bwced o ddŵr ar ôl eu defnyddio.
• Cadwch eich anifeiliaid anwes dan do drwy gydol y noswaith.