Mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr Cymru i gefnogi gofalwyr maeth
Wrth i deuluoedd ar draws y wlad frwydro yn erbyn yr argyfwng costau byw parhaus, mae Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr yng Nghymru i ddod yn ‘gyfeillgar i faethu’, yn y gobaith o fynd i’r afael â’r camsyniad na allwch barhau i weithio os byddwch yn dod yn ofalwr maeth.
Mae’r Pythefnos Gofal Maeth hwn TM (15-28 Mai), mae’r Rhwydwaith Maethu, prif elusen faethu’r DU, a gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru yn galw ar y gymuned fusnes ehangach i roi eu cefnogaeth a'i gwneud yn haws i'w gweithwyr gyfuno maethu a gweithio.
Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, mae bron i 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu â gwaith arall ac mae eu polisi ‘cyfeillgar i faethu’ yn annog cyflogwyr i ddarparu hyblygrwydd ac amser i ffwrdd i weithwyr sy’n ddarpar ofalwyr maeth ac sy’n mynd drwy’r broses ymgeisio.
Mae'r cynllun hefyd yn cefnogi gweithwyr sydd eisoes yn ofalwyr maeth, i ganiatáu amser i ffwrdd ar gyfer hyfforddiant, presenoldeb mewn paneli, i setlo plentyn newydd yn eu cartref ac i ymateb i unrhyw argyfyngau a all godi.
Gall cael cefnogaeth cyflogwr wneud y gwahaniaeth hanfodol ym mhenderfyniad cyflogai i ddod yn ofalwr maeth.
Dywedodd Pennaeth Maethu Cymru, Alastair Cope:
“Wrth i’r angen am ofalwyr maeth barhau i dyfu, mae angen i’n cymuned yng Nghymru wneud yn well.
“Rydyn ni’n gwybod pan fydd plant yn aros yn gysylltiedig, yn aros yn lleol a bod ganddyn nhw rywun i’w cefnogi am y tymor hir, rydyn ni’n gweld canlyniadau gwell.
“Felly, os gall cyflogwyr yng Nghymru gefnogi eu gweithwyr i ddod yn ofalwyr maeth, gall awdurdodau lleol helpu mwy o blant i gadw mewn cysylltiad â’u gwreiddiau ac yn y pen draw, eu cefnogi tuag at ddyfodol gwell.”
I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru ewch i maethucymru.llyw.cymru
I ddod yn gyflogwr cyfeillgar i faethu, cysylltwch â’r Rhwydwaith Maeth fosteringfriendly@fostering.net i gael gwybod mwy.