Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (y Gronfa) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro uchelgeisiol Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o’i chefnogaeth i leoedd ar draws y DU.
Prif nod y Gronfa yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU.
Mae’r Gronfa wedi’i rhannu’n dri maes blaenoriaeth:
• Cymuned a Lle
• Cefnogi Busnesau Lleol
• Pobl a Sgiliau
Mae’r grant hwn o dan y ddarpariaeth Cymuned a Lle ac mae ganddo ddau amcan, fel a ganlyn:
• Cryfhau ein gwead cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn lleol, trwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella cysylltiadau ac amwynderau ffisegol, diwylliannol a chymdeithasol, megis seilwaith cymunedol a mannau gwyrdd lleol, a phrosiectau a arweinir gan y gymuned.
• Adeiladu cymdogaethau gwydn, diogel ac iach, trwy fuddsoddi mewn lleoedd o safon y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt, trwy welliannau wedi’u targedu i’r amgylchedd adeiledig a dulliau arloesol o atal troseddu.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gwahodd partïon yn y trydydd sector i wneud cais am gyllid i gefnogi’r cyngor i gyflawni amcanion y Gronfa.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, 7 Ebrill 2025.
Dychwelwch ffurflenni cais i regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk