Gwasanaethau Cwsmeriaid
Bydd C2BG (Canolfan Gyswllt y Cyngor) ar gau ddydd Llun 30 Awst 2021 a bydd yn ailagor am 8am ddydd Mawrth 31 Awst 2021.
Gellir cysylltu â’r gwasanaeth argyfwng tu allan i oriau ar y rhif arferol o 01495 311556 yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd gwasanaeth Piper Alarm hefyd yn parhau i weithredu. Dylid cyfeirio ymholiadau am larymau Piper Lifeline tu allan i oriau swyddfa at 0845 056 8035.
Gwasanaeth Cofrestru
Ni fydd y gwasanaeth Cofrestru ar gael ddydd Llun 30 Awst a bydd yn ailddechrau ar gyfer Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau am 9am ddydd Mawrth 31 Awst.
Tîm Dyletswydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd Swyddfa’r Tîm Dyletswydd ar gau ddydd Llun 30 Awst ac yn ailagor am 9am ddydd Mawrth 31 Awst.
Yn ystod y cyfnod hwn cysylltwch â’r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0800 328 44 32.
Taliadau a Budd-daliadau
Os dymunwch wneud taliad, mae llinell talu 24 awr awtomatig ar gael ar 0845 604 2635 neu gellir gwneud taliadau drwy ein gwefan.
Rydym yn erbyn ceisiadau am Fudd-daliadau Tai a Gostyngiad Treth Gyngor ar-lein - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/resident/housing-benefit/benefits-online/
Gwastraff ac Ailgylchu
Bydd gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn cynnwys casgliadau cewynnau/glanweithdra a gwastraff gwyrdd yn parhau fel arfer. Gofynnir i chi roi eich gwastraff ac ailgylchu allan ar gyfer eu casglu erbyn 7am ar ddyddiad y casgliad.
Dim ond drwy apwyntiad y gellir gwneud ymweliadau i Ganolfan Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi Cwm Newydd neu’r ganolfan newydd yn Roseheyworth, Abertyleri.
Cewch eich troi bant os nad oes gennych apwyntiad. Mwy o wybodaeth - https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/gwastraff-ac-ailgylchu/ymweld-a-chanolfan-ailgylchu/
Llyfrgelloedd a Hybiau Cymunedol
Bydd Llyfrgelloedd a Hybiau Cymunedol Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ar gau ddydd Llun 30 Awst. Bydd gwasanaeth arferol yn ailddechrau am 9am ddydd Mawrth 31 Awst.
Diolch i chi am eich cefnogaeth barhaus!