Mae Cyngor Blaenau Gwent yn falch iawn i ennill Gwobr Aur y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr am ei gefnogaeth ardderchog i’r gymuned Lluoedd Arfog.
Yr anrhydedd uchaf yn y cynllun, cyflwynir Gwobr Aur Cydnabod Cyflogwyr i’r rhai sy’n cyflogi ac yn cefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu a chyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd.
Dywedodd Leo Docherty, Gweinidog Pobl Amddiffyn a Chyn-Aelodau’r Lluoedd Aflog:
“Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau sydd wedi profi eu cefnogaeth i’r gymuned Amddiffyn mewn cyfnod mor ddigynsail a heriol.
“Mae amrywiaeth enfawr y rhai a gydnabyddir eleni yn dangos sut mae cyflogi’r gymuned Lluoedd Arfog yn cael effaith wirioneddol gadarnhaol a manteisiol i bob cyflogwr, beth bynnag eu maint, sector neu leoliad.”
Dywedodd y Cyng Brian Thomas, Hyrwyddwyr Lluoedd Arfog Blaenau Gwent:
“Rydym yn falch iawn i ennill y lefel uchel o gydnabyddiaeth ar gyfer y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Lluoedd Arfog, sy’n cyfnerthu ein hymrwymiad i gefnogi cyn-aelodau ac aelodau presennol y Lluoedd Arfog sy’n gweithio i ni yma ym Mlaenau Gwent.
“Rydym yn falch tu hwnt o holl aelodau’r Lluoedd Arfog am eu gwasanaeth i’r wlad ac rwy’n falch y cafodd ein polisïau eu cydnabod fel bod yn gefnogol a’r gorau y gallant fod. Edrychaf ymlaen at dderbyn y wobr yn swyddogol yn nes ymlaen eleni.”
I ennill y wobr, mae’n rhaid i sefydliadau roi 10 diwrnod ychwanegol o wyliau ar dâl i aelodau’r Lluoedd wrth Gefn a bod â pholisïau cefnogol ar waith ar gyfer Cyn-Aelodau, Aelodau wrth Gefn ac Oedfolion sy’n Gwirfoddoli yn y Cadetiaid, yn ogystal â gŵyr, gwragedd a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.
Mae’n rhaid i sefydliadau hefyd hybu manteision cefnogi’r rhai o fewn y gymuned Lluoedd Arfog drwy annog eraill i lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog a’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr.
Mae’r Wobr hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach y Cyngor i gefnogi’r gymuned Lluoedd Arfog ym Mlaenau Gwent, yn cynnwys rhoi hyfforddiant i dros 200 o staff rheng-flaen am gefnogi anghenion aelodau gwasanaeth presennol a chyn-aelodau a’u teuluoedd, a diwygio ein polisi tai i sicrhau nad yw rhai sy’n gadael y gwasanaeth a’u partneriaid dan anfantais pan fyddant yn gwneud cais am gartref pan ddychwelant i fywyd sifilian ym Mlaenau Gwent.
Caiff y Wobr ei chyflwyno’n swyddogol mewn seremoni yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd.
Lansiwyd y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr yn 2014 gan David Cameron pan oedd yn Brif Weinidog i gydnabod cymorth cyflogwyr i egwyddorion ehangach Cyfamod y Lluoedd Arfog a’r sbectrwm llawn o bersonél Amddiffyn. Mae hyn yn cynnwys aelodau’r lluoedd wrth gefn, y rhai sy’n gadael y gwasanaeth, cadetiaid, gŵyr a gwragedd a’r rhai a anafwyd ac sy’n wael.
Mae’r Cyfamod Lluoedd Arfog yn addewid gan y genedl i sicrhau fod y rhai sy’n gwasanaethu neu sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog a’u teuluoedd yn cael eu trin yn deg. Mae mwy o wybodaeth am Gyfamod y Lluoedd Arfog a sut i gymryd rhan ar gael yma.