Gwirfoddolwyr yn Estyn yn Ddwfn i’w Pocedi i Ddod â Phrosiect Garddio Tŷ Augusta yn Fyw

Mae gardd Tŷ Augusta, Gwasanaeth Seibiant Anabledd Dysgu Blaenau Gwent ym Mharc Fictoria, wedi cael ei gweddnewid yn llwyr diolch i gefnogaeth gan sefydliadau, ysgolion a gwirfoddolwyr lleol.

Gan gychwyn yn gynnar fore dydd Llun, cyrhaeddodd tîm penderfynol o wirfoddolwyr brwdfrydig, yn barod i wireddu’r weledigaeth. Gyda rhawiau a thryweli, fe rannon nhw’n grwpiau, pob un â'r dasg o ailwampio gwahanol rannau o'r ardd. Roedd eu cenhadaeth yn syml; creu gofod croesawgar ac ysgogol i breswylwyr a'u teuluoedd ei fwynhau.

Gwnaed y prosiect trawsnewidiol yn bosibl trwy gyfraniadau hael gan gynnwys ffensys, compost, planhigion, planwyr, clychau gwynt, a chyffyrddiadau addurniadol eraill, i gyd gyda'r nod o greu gofod awyr agored gwych i drigolion a'u teuluoedd ei rannu. Derbyniodd y prosiect gefnogaeth frwdfrydig gan 'Gyfeillion Augusta', Nwy Prydain, disgyblion Ysgol Pen-y-Cwm, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a llawer o aelodau staff ymroddedig Blaenau Gwent, i gyd yn awyddus i roi help llaw.

O dan yr heulwen lachar roedd yr ardd yn fwrlwm o weithgarwch wrth i wirfoddolwyr weithio ochr yn ochr i ddod â'r gofod yn fyw. Gwnaeth Nwy Prydain gyflenwi paneli metel addurniadol tra bod Able Touch Joinery o Dredegar wedi rhoi planwyr a chlychau gwynt. Prynodd Cyfeillion Augusta ffens newydd sbon, a osodwyd gan David Ingram. Cyfrannodd Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth y Cyngor gyda llwyth o gompost a sglodion pren o Ddyffryn Distaw, lle maen nhw’n cynnal eu prosiect gwastraff gwyrdd cynaliadwyedd, a chafwyd cyfraniadau hefyd gan drigolion Byw â Chymorth a theuluoedd y rhai sy'n cael mynediad at seibiant - i gyd yn ychwanegu at ysbryd cymunedol y digwyddiad.

Daeth garddwyr ifanc o flwyddyn 6 Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair â rhagor o ysbrydoliaeth drwy rannu eu llwyddiant diweddar, ar ôl cyrraedd y rhestr fer mewn cystadleuaeth genedlaethol am yr ardd ysgol orau. Mae eu hymroddiad at arddwriaeth yn eithriadol, ac mae tîm Tŷ Augusta yn dymuno'r gorau iddynt yn y rowndiau terfynol yr haf hwn.

Darparwyd cinio bwffe i bob gwirfoddolwr a dŵr potel am ddim gan staff Tŷ Augusta.

Yn ogystal â bod o fudd i drigolion, mae'r ardd newydd yn hafan i fywyd gwyllt lleol – mae’n cynnwys gwestai pryfed, cartrefi i wenyn unig, a blychau adar ac ystlumod, a roddwyd yn hael gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor i gyfoethogi profiad yr ardd synhwyraidd.

Gyda chwerthin, gwaith tîm, a gwir ymdeimlad o gymuned, mae gan Dŷ Augusta bellach fan gwyrdd llewyrchus a fydd yn dod â llawenydd a chysylltiad i'w drigolion a'r gymuned ehangach am flynyddoedd i ddod.

Meddai’r Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau, y Cynghorydd Helen Cunningham:

"Mae Prosiect Garddio Tŷ Augusta yn enghraifft wych o sut y gall ysbryd cymunedol a chydweithrediad greu newid ystyrlon. Mae gweld gwirfoddolwyr, ysgolion lleol a sefydliadau yn dod at ei gilydd i drawsnewid y gofod hwn yn wirioneddol ysbrydoledig. Bydd yr ardd hon yn dod yn etifeddiaeth barhaol i drigolion ei gwerthfawrogi, ac rydw i am estyn fy niolch i bawb a roddodd o’u hamser, eu hegni a'u hadnoddau i wneud iddo ddigwydd."

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Tŷ Augusta, Helen Beecham:

"Mae’r haelioni, y caredigrwydd a'r ysbryd cymunedol a ddangoswyd gan bawb a gyfrannodd at Brosiect Garddio Tŷ Augusta wedi ein cyffwrdd. Mae gweld gwirfoddolwyr, ysgolion a sefydliadau lleol yn dod at ei gilydd i greu gofod mor hardd wedi bod yn hynod galonogol. Bydd yr ardd hon nid yn unig yn dod â llawenydd i'n trigolion ond bydd hefyd yn atgof parhaol o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn dod ynghyd gyda phwrpas cyffredin. O waelod ein calonnau, diolch am wireddu'r freuddwyd hon!"

Dywedodd Cheryl a Suzanne o Gyfeillion Augusta:

"Allwn ni ddim diolch i chi i gyd ddigon. Mae gweld cymaint yn camu ’mlaen i'n helpu i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer ein gardd wedi ein cyffwrdd. Rwy'n credu ein bod ni wedi rhagori ar bob disgwyliad ar ba mor wych mae wedi troi allan. Mae'n edrych mor lliwgar a chroesawgar. Rydyn ni’n lwcus iawn i gael pobl mor feddylgar a hael yn ein cymuned."

Dywedodd disgyblion o Ysgol Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair:

"Diolch yn fawr am adael i ni eich helpu chi i wneud yr ardd yn lle mwy prydferth a llawen. Gwnaethom ni fwynhau plannu blodau, trefnu'r gwelyau blodau a thynnu'r chwyn. Rydym yn gobeithio y bydd yr ardd yn parhau i flodeuo gyda charedigrwydd, lliw a gofal."

Meddai Ross Kirwan, Pennaeth Nyth, sy'n rhan o Raglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru:

''Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu rhoi cefnogaeth i Dŷ Augusta. Yn Nyth, mae ein staff yn ymfalchïo mewn prosiectau gwirfoddoli lleol ac mae ein perthynas â thîm Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn bartneriaeth wych i alluogi'r cyfleoedd hyn i barhau.  Mae'r ardd synhwyraidd yn edrych yn wych, da iawn i bawb a gymerodd ran."

Rhestr lawn o Wirfoddolwyr:

Disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Brynmawr

James O'Connell a disgyblion Ysgol Pen y Cwm 16+

Sam Jones - Nwy Prydain

Michelle Symonds – Nwy Prydain

Cheryl Jones - Cyfeillion Augusta

Suzanne Cadwallader - Cyfeillion Augusta

Rebecca Morris - CBSBG

Victoria Taylor - CBSBG

Dominic Dickson - CBSBG

Karen Smith - CBSBG

Ian Robbins - CBSBG

Sian Hughes - CBSBG

Paul Fry - CBSBG

Garrod Fry - CBSBG

Ian Thomas - CBSBG

Lee Jenkins - CBSBG

John Mewett - CBSBG Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth

Craig Blunsdon - CBSBG

Lisa Jones - CBSBG

Matthew Stent - CBSBG

Noel Chard - CBSBG

David Ingram - CBSBG

Nadine Morgan – CBSBG

Staff Dyffryn Distaw

Able Touch Carpentry & Joinery, Tredegar

Ken Sullivan