Mae cynghorau yng Ngwent yn hysbysu pobl sy’n derbyn gwasanaethau iechyd cymunedol a gofal cymdeithasol i ddisgwyl newidiadau posibl yn eu cymorth oherwydd y galw uchel ar wasanaethau a phrinder staff.
Mae cyfuniad o symud i Lefel Rhybudd 0 COVID-19, sydd wedi golygu ceisiadau ychwanegol am ofal cymunedol, ynghyd â’r angen i staff gymryd gwyliau yn ystod yr haf, wedi cynyddu pwysau ar wasanaethau gofal cymunedol ledled Cymru.
Mae cynghorau yng Ngwent yn rhoi blaenoriaeth i adnoddau o fewn timau ac yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio i drin prinder staff. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhai newidiadau i’r gefnogaeth a gaiff pobl, a gellir gofyn i deuluoedd gynorthwyo darparwyr gofal cymunedol.
Dywedodd Damien McCann, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Blaenau Gwent: “Mae ein timau ar draws Gwent yn wynebu pwysau difrifol. Mae galw cynyddol am ein gwasanaethau ac mae pandemig COVID-19 wedi gwaethygu hynny. Cafodd hyn ei gyfuno gydag absenoldeb tymor hir a thymor byr ymysg staff a swyddi gwag.
“Gwneir pob ymdrech i helpu gwasanaethau i ddal i redeg ond mae’r sefyllfa yn achosi pryder, ac mae rhai penderfyniadau anodd yn gorfod cael eu gwneud bob dydd.
“Y nod yw diogel aelodau bregus o’n cymdeithas drwy atal gwasanaethau rhag cyrraedd torbwynt.
“Gofynnwn i unigolion, teuluoedd a gofalwyr i weithio mewn partneriaeth gyda ni ac i ddangos cydymdeimlad tuag at ein staff.”
Dywedodd Nick Wood, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Sylfaenol, Cymunedol a Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid mewn gofal cymdeithasol i ymchwilio pob cyfle i gefnogi pobl leol gyda’u hanghenion gofal parhaus, naill ai yn eu cartrefi ein hunain neu drwy’r rhwydwaith sylweddol o ddarparwyr gwasanaeth yn yr ardal.
“Rydym yn sylweddoli’r heriau mawr sydd ar hyn o bryd gydag argaeledd staff gofal cartref a’r galw cynyddol am ofal a chymorth, a byddem yn annog pob cymuned i weithio gyda ni a’r timau gwasanaethau cymunedol.
“Mae gwasanaethau dan bwysau dwys ac mae hyn yn debyg o barhau am y tymor byr i’r tymor canol wrth i ni weithio gyda phartneriaid gofal cymdeithasol i gynyddu capasiti yn y gymuned a galluogi newidiadau i’r ffordd y gaiff gwasanaethau eu cyflwyno wrth i ni gael adferiad o bandemig COVID-19.”
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gyrfa mewn gofal cymdeithasol, mae cyfleoedd swyddi ar gael ar draws y sector. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn
www.wecare.wales neu https://www.blaenau-gwent.gov.uk/en/home/.