Gwahodd ceisiadau am grantiau cydlyniant cymunedol

Mae Grant Cydlyniant Cymunedol Gorllewin Gwent bellach ar agor i dderbyn ceisiadau a bydd yn cau ar 18 Gorffennaf 2025.

Os ydych chi'n rhan o grŵp cymunedol, sefydliad y trydydd sector, neu ysgol leol ym Mlaenau Gwent a bod gennych brosiect sy'n dod â phobl at ei gilydd neu'n ennyn ysbryd cymunedol, gallech dderbyn cyllid o rhwng £500 a £2,000.

P'un a ydych chi'n dechrau rhywbeth newydd neu'n ystyried datblygu prosiect presennol, gall y grant hwn helpu i’w wireddu.

Gwnewch gais nawr a dysgu mwy yma.

Bydd pob cais yn cael ei adolygu ar ôl y dyddiad cau, a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod ym mis Medi 2025.

Ysbrydoliaeth o'r llynedd

Defnyddiodd Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr y grant ar gyfer ei ymgyrch ‘Heart Work’, i fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu ar sail hil, trwy gyfres o brosiectau creadigol.

Dechreuodd y prosiect yn ystod Mis Hanes Pobl Dduon y llynedd ac mae'r ysgol wedi gweithio mewn partneriaeth i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hiliaeth a rhagfarn ymhlith disgyblion a'r gymuned leol.

Roedd digon o weithgareddau ac roeddent yn hynod amrywiol. Yn eu plith, cafwyd gwasanaethau arbenigol chyfleoedd i ddathlu cysylltiadau lleol â Blaenau Gwent, fel Paul Robeson, ynghyd ag unigolion arwyddocaol eraill sydd wedi creu effaith a chyfraniad byd-eang. Ochr yn ochr â hyn cynhaliwyd gweithdai i ddisgyblion yn cynnwys creu masgiau a ysbrydolwyd gan Affrica; ‘sgwrs bwrdd’ gwrth-hiliaeth Dydd Mawrth: Sut i fod yn gyfaill; paentio’r croen mewn lliwiau amrywiol, a ysbrydolwyd gan waith Kehinde Wiley, a chreu pabïau o glai i gynrychioli Dydd y Cofio.

Cydweithiodd yr ysgol â'u llysgenhadon a grwpiau ysgol, sef y grŵp amrywiaeth ddiwylliannol, grŵp hawliau'r plentyn a grwpiau gwrth-fwlio, i archwilio cyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth ac ehangu llais y disgybl.

Gwahoddwyd y gymuned leol i Ddathliad y Gaeaf, lle gwelwyd disgyblion yn cynnig cefnogaeth i ymwelwyr wneud celf a chrefft sy’n cael eu dathlu o amgylch y byd. Aeth disgyblion a staff allan i'r gymuned hefyd i ymweld â Chartref Gofal Bank House a chynnal digwyddiad llythrennedd a chrefft yn y ganolfan chwaraeon i rieni a phlant bach. Yma cawsant gyflwyniad syml i gysyniad wrth-hiliaeth mewn ffordd gyfeillgar a chreadigol.

Meddai Mel Thomas, Pennaeth Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr:

“Fe wnaethom ddefnyddio'r grant i lansio menter gwrth-hiliaeth bwerus, gan ddefnyddio nifer o brosiectau creadigol i godi ymwybyddiaeth am ragfarn, a hyrwyddo cynhwysiant. Mae ymgyrch ‘Heart Work’ wedi grymuso ein disgyblion i arwain newid, dathlu amrywiaeth, a meithrin cysylltiadau cryfach ar draws ein hysgol 3–16 oed a'n cymuned leol. Mae ein disgyblion yn sicr yn arwain y newid yn erbyn hiliaeth ac yn llwyr ddathlu amrywiaeth. Gadewch i ni adeiladu dyfodol mwy cynhwysol gyda'n gilydd!”