Mae gofalwyr maeth yn annog eraill i ystyried maethu plentyn a chreu cysylltiadau oes yn Blaenau Gwent.
Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch faethu fwyaf y flwyddyn, rhwng Mai 12 a Mai 25 eleni, gyda thema sy’n dathlu pŵer perthnasoedd.
Boed yn gyswllt clós rhwng gofalwr a phlentyn, y berthynas sy’n cael ei chreu gyda gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu’r cyfeillgarwch sy’n datblygu gyda gofalwyr maeth eraill o fewn cymuned, mae perthnasoedd cryf yn llinyn aur sy’n rhedeg trwy’r holl straeon maethu.
Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru yn bwriadu recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol erbyn 2026.
Rhannodd Liz a Joe ei stori am y perthnasoedd parhaol a ffurfiodd o ganlyniad i faethu trwy Faethu Cymru Blaenau Gwent.
Mae Liz a Joe yn mwynhau maethu plant hŷn a phobl ifanc yn yr arddegau. Maent yn teimlo fod maethu’r grŵp oedran yma wedi gweithio’n dda iddynt ac mae’n flin ganddynt nad oes digon o ofalwyr maeth a hoffai faethu pobl ifanc yn eu harddegau.
“Rwyf wedi bod yn maethu am dros 18 mlynedd ac mae’n rhywbeth roeddwn i bob amser eisiau ei wneud; rwy’n wirioneddol mwynhau fod yn fam.
“Wnaethon ni ddim dewis yn benodol i feithrin yr arddegau, dim ond digwydd wnaeth o, ond roedd o yn gweithio’n dda iawn i ni. Mae gennym grwt sy’n awr yn 17 ac mae wedi byw gyda ni ers ei fod yn 4; rydyn ni wedi ei weld drwy bob cyfnod o’i fywyd hyd yma. Ein crwt ni yw e ac mae fel mab i ni. Ond mae gennym ni hefyd ferch yn ei harddegau, a ddaeth atom pan oedd yn 12 oed.
“Pan fyddwch yn gweld y newid ynddyn nhw ac yn eu gweld yn gwneud yn dda, dyna lle’r ydych chi’n teimlo fod y cyfan yn werth chweil.
Mae angen mawr i Mathu Cymru recriwtio mwy o ofalwyr maeth ar gyfer plant yng Nghymru, sydd angen amgylchedd diogel, cefnogol a chariadus. Mae Liz a Joe yn annog mwy o bobl i gysylltu a holi am faethu gyda thîm Maethu Cymru yr awdurdod lleol.
I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Maethy Cymru Blaenau Gwent ewch i cysylltu â ni - maethu cymru blaenau gwent
Bydd eich tîm lleol Maeth Cymru Blaenau Gwent yn brysur allan yn y gymuned drwy'r wythnos yn gwneud gollyngiadau taflenni, yn ogystal â Digwyddiad Gwerthfawrogi Gofalwyr Maeth, barbeciw yn y parc i'n teuluoedd gydag Anifeiliaid Rhyngweithiol, stondin wybodaeth yn Digwyddiad Pride Blaenau Gwent a gwneud taith gerdded 'Lap y Llyn' i godi ymwybyddiaeth o faethu.