Enillwyr Tîm Prosiect Hwyluso STEM Blaenau Gwent, Gwobrau STEM Cymru 2024

 Mae Tîm Prosiect Hwyluso STEM Blaenau Gwent wedi ennill Gwobr Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) yng Ngwobrau STEM mawreddog Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Mercure Holland House, Caerdydd ddydd Iau diwethaf 17 Hydref 2024.

Mae categori’r wobr yn cydnabod menter ragorol wrth fynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth a phrinder sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) tra’n codi dyheadau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr STEM.

Mae ennill gwobr o’r fath yn gryn gamp gan fod llawer o sefydliadau adnabyddus a sefydledig eraill yn cystadlu yn yr un categori megis Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.

Meddai Dr Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg Cyngor Blaenau Gwent:
“Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r Tîm Prosiect Hwyluso STEM, mae’n foment mor falch iddynt gael eu cydnabod am yr holl waith caled y maent wedi’i wneud. Mae STEM yn rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol, ac mae mor galonogol bod y safonau uchel hyn yn eu lle yn barod ar gyfer y dyfodol.”

Mae STEM yn ddull o ddysgu a datblygu sy'n integreiddio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae sgiliau allweddol fel datrys problemau, llythrennedd digidol, dadansoddi beirniadol, cyfathrebu a meddwl yn annibynnol ymhlith y sgiliau newydd sydd eu hangen ar blant i ragori ar eu taith ddysgu.

Meddai’r Cynghorydd John C Morgan - Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd:
“Roedd safon yr ymgeiswyr yn y categori hwn yn hynod o uchel sy’n gwneud ennill y wobr hon hyd yn oed yn fwy trawiadol. Mae datblygu arbenigedd STEM yn hanfodol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a’n heconomi yn enwedig gan fod arbenigedd yn y gweithle yn newid mor gyflym. Mae hyn yn dangos bod gennym ni lwyfan STEM rhagorol eisoes ar waith, sy’n galluogi busnesau ym Mlaenau Gwent i recriwtio ymgeiswyr â setiau sgiliau yn barod ar gyfer eu hanghenion busnes sy’n newid yn barhaus.”

Meddai Tara Lane, Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig:
“Rwy’n falch iawn bod y Tîm STEM wedi derbyn gwobr o’r fath, mae nid yn unig yn amlygu pwysigrwydd STEM yn ein hysgolion ond hefyd y gwerth sylweddol ar gyfer dyfodol ein busnesau a’n gweithleoedd ledled y fwrdeistref. Mae’r cysylltiadau rhwng addysg a busnes yn hollbwysig ar gyfer cynnydd gan y bydd y sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle yn newid yn sylweddol ac yn gyflymach nag y maent wedi’i wneud ar gyfer cenedlaethau blaenorol. Mae’r wobr hon yn dangos sut rydym wedi croesawu newid ac yn paratoi ar gyfer datblygu economaidd yn y dyfodol.” 

 
O’r chwith i’r dde: Darllenydd newyddion teledu Cymraeg Lucy Owen, Samuel Harris Swyddog Cyswllt (Hwyluso STEM CBSBG) Hybiau HiVE, Swyddog Cyswllt (Prosiect Hwyluso STEM CBSBG), Tara Lane (Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig CBSBG) a Julie Timothy (Arweinydd Tîm Hwyluso STEM CBSBG), yn dal y wobr.  

Gwobr Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) Blaenau Gwent.

        
   
O'r chwith i'r dde: Mark Langshaw , Rheolwr Gyfarwyddwr Continental Teves UK Ltd, Julie Timothy (Arweinydd Tîm Hwyluso STEM CBSBG), yn dal y wobr. Tara Lane (Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig CBSBG) a'r Cynghorydd John C Morgan, Aelod Cabinet CBSBG dros Leoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd.