Eisiau helpu draenogod yn eich ardal? Gofynnwch am becyn ‘Draenogod Trefol’ heddiw

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig cyfle i bob aelwyd cymwys o fewn y fwrdeistref sirol gymryd rhan yn eu prosiect ‘Draenogod Trefol’ a derbyn pecyn o eitemau AM DDIM a fydd o gymorth i ddraenogod mewn gerddi. Bydd y pecynnau’n cynnwys nifer o eitemau i helpu gyda chamau cadarnaol ar gyfer draenogod.

Y nod yw rhoi hwb i gyfranogiad gymunedol a dysgu sut i helpu gyda chamau cadarnhaol ar gyfer ein cyfeillion pigog. Er enghraifft, gwneud gerddi’n groesawgar i ddraenogod drwy greu ‘lonydd draenog’, darparu safleoedd nythu a gwneud eich gardd yn gyfeillgar i ddraenogod. Bydd pwyslais hefyd ar annog pobl i gymryd rhan weithredol o ran cofnodi draenogod mewn tirweddau trefol a gerddi, a rhannu gwybodaeth gyda chanolfannau cofnodi bioamrywiaeth lleol megis Canolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru (SEWBReC) http://www.sewbrec.org.uk/home-w.page.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ynghyd â sefydliadau partner, yn arwain prosiect ‘Bywyd Gwyllt Lle Rydym yn Byw’, sy’n cael ei gyllido drwy grant Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru drwy raglen waith Gwent Fwyaf Gydnerth. Mae'r rhaglen yn parhau tan haf 2022 ac mae'n gweithio i sicrhau De Ddwyrain Cymru lle mae adferiad mewn natur a chymunedau cynaliadwy yn gwerthfawrogi eu tirluniau a bywyd gwyllt ac yn cymryd rhan ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant eu hunain.

Cam nesaf y prosiect fydd canolbwyntio ar ddraenogod o fewn ardaloedd trefol Blaenau Gwent.
Mae bioamrywiaeth yn dirywio yng Nghymru ac ers 1970 bu llai o fywyd gwyllt a 30% i’w gael mewn llai o lefydd. Mae draenogod yn prinhau ym Mhrydain, ac ers 2000, mae traean yn llai o ddraenogod. Mae arbenigwyr yn credu fod sawl ffactor gwahanol sy’n cyfrannu at y dirywiad trawiadol hwn megis colli cynefinoedd a newid defnydd tir, er enghraifft, ac mae mwy o erddi’n cael eu troi’n jynglau concrit gyda ffiniau na fedrir mynd drwyddynt. Wrth gymryd rhan yn y prosiect hwn, gallwch helpu draenogod yn eich cymdogaeth, a hyd yn oed fod yn hyrwyddwr draenogod!

Meddai’r Cynghorydd Lee Parsons, Hyrwyddwr Natur Blaenau Gwent:

“Mae cyswllt gyda natur a’r awyr agored yn bwysig i iechyd a lles pobl. Bydd y pecynnau hyn yn helpu pobl i gysylltu gyda natur, a sicrhau camau cadarnhaol ar ran ein draenogod trefol. Gobeithiwn y bydd y rhai sy’n derbyn pecyn yn mwynhau dysgu mwy am ein ffrindiau pigog, yn cael hwyl wrth gofnodi mynd a dod draenogod yn eu gerddi; ac yn annog ffrindiau, teulu a chymdogion i fod yn Hyrwyddwyr Draenogod.”

Bydd angen i’r rhai sy’n derbyn pecynnau ddarparu ffotograffau o’u gweithgareddau gyda chynnwys y pecynnau a darparu diweddariadau rheolaidd. Caiff yr wybodaeth a’r adborth a dderbynnir eu defnyddio i gael gwell dealltwriaeth o amrediad a dosbarthiad draenogod ar draws y fwrdeistref.

Trigolion Blaenau Gwent yn unig gaiff wneud cais am becyn, a byddant yn cael eu dosbarthu tua diwedd Hydref. Fe’u dosberthir gan Tai Calon i garreg eich drws yn unol â’r holl ganllawiau ymbellháu cymdeithasol.

I wneud cais am Becyn Draenogod Trefol, anfonwch neges at Nadine.Morgan@blaenau-gwent.gov.uk

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12pm dydd Mercher 28 Hydref 2020

*Cyfanswm o 60 pecyn sydd ar gael a byddant yn cael eu cynnig ar sail cyntaf i’r felin fesul ward, er mwyn sicrhau dosbarthiad teg ar draws y fwrdeistref.