Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad: 2023-2027
Rydym wedi datblygu Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad newydd yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n amlinellu sut rydym yn bwriadu ymgysylltu â chi’n effeithiol ac annog cyfranogiad er mwyn llywio a gwella ein penderfyniadau.
Mae gan ein Strategaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad bedwar amcan lefel uchel sy’n nodi sut yr ydym yn bwriadu cyflawni ymgysylltiad a chyfranogiad effeithiol ledled y Cyngor.
Amcan 1: Prif ffrydio dulliau ymgysylltu a chyfranogi effeithiol ar draws y Cyngor
Amcan 2: Sicrhau ein bod yn ymgysylltu â phobl Blaenau Gwent yn y ffordd fwyaf effeithiol a chydweithredol
Amcan 3: Mynd ati i annog ein cymunedau a chenedlaethau’r dyfodol i gymryd rhan yng ngweithgareddau gwneud penderfyniadau’r Cyngor
Amcan 4: Cynnal yr arferion gorau o ran ymgysylltu a chyfranogi a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau diweddaraf i helpu i gefnogi ein cymunedau
Mae rhoi’r cyfle i chi rannu eich barn, eich meddyliau a’ch syniadau yn bwysig iawn i ni er mwyn sicrhau ein bod yn rhedeg yn effeithiol fel cyngor sy’n diwallu eich anghenion, gan wneud penderfyniadau gwybodus sy’n gwella mynediad at wasanaethau, ansawdd gwasanaethau, a’r ffordd y maent yn cael eu darparu.
Sut gallwch chi gymryd rhan?
Gallwch gymryd rhan mewn sawl ffordd:
- Trwy gwblhau ein harolwg ar-lein trwy https://online1.snapsurveys.com/EngagementParticipationSurvey
- Trwy ysgrifennu atom yn Polisi a Phartneriaethau, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, Blaenau Gwent, NP23 6UW
- Trwy anfon neges e-bost atom yn: pps@blaenau-gwent.gov.uk
- Rydym hefyd yn croesawu darluniau, straeon, cerddi neu fideos
Amserlen ar gyfer ymateb:
Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 31/03/2024.