Dyfodol Teithio ym Mlaenau Gwent

Mae Cyngor Blaenau Gwent ac elusen cyfranogiad y cyhoedd, Involve, yn cynnal Fforwm Dinasyddion ar Ddyfodol Teithio ym Mlaenau Gwent.

Ariennir y fforwm gan Innovate UK, asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU. Bydd yn dod ag ystod amrywiol o drigolion ynghyd i glywed tystiolaeth, trafod y materion a chynhyrchu argymhellion am ddyfodol teithio ym Mlaenau Gwent.

Mae hon yn broses bwysig, a bydd yr argymhellion yn cael eu hystyried gan y Cyngor a phartneriaid trafnidiaeth fel rhan o waith i newid a gwella teithio lleol a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.

Gofynnir i grŵp o 20 o drigolion, a ddewisir trwy loteri i adlewyrchu’r gymuned, ateb y canlynol:

Sut gall Blaenau Gwent ddod at ei gilydd i wneud teithio lleol yn decach, yn wyrddach ac yn well i bawb?

Mae'r Cyngor a sefydliadau partner trafnidiaeth yn awyddus i'r dyfodol teithio gael ei siapio gan drigolion a bod unrhyw newidiadau a wneir yn cefnogi anghenion y gymuned ac yn dod â buddion ehangach.

Bydd y Fforwm Dinasyddion yn dilyn proses ddemocrataidd sefydledig a ddefnyddir ledled y byd. Bydd y bobl sy'n mynychu yn dysgu am y materion ac yna'n eu trafod gyda'i gilydd.

Byddant yn llunio gweledigaeth ar gyfer dyfodol teithio ac yn gwneud argymhellion ar sut y gall y cyngor a sefydliadau partner fwrw ymlaen â hyn. Bydd canlyniad y broses hon yn llywio anghenion teithio ar draws y fwrdeistref.

Bydd y fforwm yn rhedeg dros dri dydd Sadwrn mewn lleoliad lleol hygyrch ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025.

Cadwch lygad allan am lythyr yn y post a gwnewch gais i gymryd rhan. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol arnoch am y pynciau i gymryd rhan yn y fforwm hwn ac mae’n gyfle gwych i lunio dyfodol teithio ym Mlaenau Gwent.

Os na fyddwch yn derbyn llythyr, bydd cyfleoedd eraill hefyd i gymryd rhan, felly cadwch lygad allan am wybodaeth bellach. Byddwn yn rhannu allbynnau'r fforwm yn agored a sut mae'n llywio'r hyn a wnawn nesaf.

Os hoffech wybod mwy, anfonwch e-bost at: EVcharging@blaenau-gwent.gov.uk