Mae cwmni wedi cael ei ddedfrydu i dalu £15,500 am droseddau o dan Reoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011, yn dilyn erlyniad gan Gyngor Blaenau Gwent.
Cafodd Tantastic Blackwood Ltd ei erlyn yn Llys Ynadon Casnewydd ar ôl i'r cyfarwyddwr, David Bryn Williams, bledio'n euog i bum trosedd.
Ym mis Mawrth 2024, derbyniodd Tîm Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor gŵyn gan aelod o'r cyhoedd yn honni eu bod wedi cael llosgiadau sylweddol ar ôl defnyddio gwely haul pwysedd uchel yn Tantastic yn Commercial Street, Tredegar.
Yn ystod ymchwiliad, nododd y swyddogion ymweld sawl methiant yn y safle o dan Reoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011. Yn ogystal â'r dystiolaeth a ddarparwyd gan y parti a anafwyd, gwelodd swyddogion hefyd fod staff yn methu â chydymffurfio â'r gofynion o dan y rheoliadau hyn wrth wasanaethu cwsmeriaid a oedd yn bresennol yn ystod eu hymweliad.
Cadarnhaodd y Barnwr Rhanbarth llywyddol yn ei chrynodeb sawl pwynt allweddol yr oedd hi wedi'u hystyried wrth benderfynu ar ddedfryd briodol. Yn gryno, roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:
- Bod Mr Williams mewn sefyllfa freintiedig o ymddiriedaeth ac y byddai'n cael ei ystyried yn arbenigwr yn ei faes gyda dros 10 mlynedd fel cyfarwyddwr y cwmni Cyfyngedig,
- Bod gan ei dîm ac ef ei hun gyfrifoldeb i gwsmeriaid, yn enwedig pobl ifanc, a allai fod yn bryderus am eu delwedd i’r graddau fod hynny’n eu rhoi mewn cyflwr o fregusrwydd ychwanegol,
- Mae'r Rheoliadau ar waith i amddiffyn unigolion a defnyddwyr o'r fath ac adlewyrchir difrifoldeb diffyg cydymffurfiaeth o ganlyniad i hynny yn y ddedfryd
Rhoddwyd rhywfaint o liniaru yn amddiffyniad Mr Williams oherwydd y canlynol:
- Cafodd ple euog gynnar ei chyflwyno i un cyhuddiad
- Roedd rhywfaint o dystiolaeth o ymdrechion i gydymffurfio mewn perthynas â rhai o'r troseddau ond ei bod yn amlwg bod Mr Williams wedi bod yn esgeulus, a bod safonau wedi llithro
- Nid oedd unrhyw euogfarnau blaenorol i'w nodi o fewn y cyfnod ystyried perthnasol, dim ond rhybuddion ysgrifenedig oedd wedi'u cyhoeddi
Gorchmynnodd y Barnwr i Tantastic Blackwood Ltd dalu cyfanswm o £15,500. Dirwy o £8,500, Gordal Dioddefwr o £2,000 a chostau o £5,000.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd a'r Amgylchedd:
"Mae'n hanfodol i unrhyw un sy'n dewis defnyddio gwely haul mewn salon allu gwneud hynny gan wybod bod y rheoliadau'n cael eu bodloni’n llawn. Mae hyn yn cynnwys atal defnydd gan blant, sicrhau bod gwybodaeth iechyd ragnodedig yn cael ei rhoi i gwsmeriaid a bod rheolaethau eraill ar waith i atal gor-amlygiad i belydrau UV. Diolch i'n timau Iechyd yr Amgylchedd a Chyfreithiol am gynnal ymchwiliad trylwyr a dod â'r achos pwysig hwn i'r llys. Maen nhw wedi cyflawni canlyniad pwysig yn y defnydd diogel a chyfreithlon o welyau haul."
Yn ogystal â'r erlyniad, yn ystod yr ymchwiliad cyhoeddodd y Cyngor hysbysiad gwahardd i'r cwmni o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 (HASAWA) mewn perthynas â'r gwely haul sy'n gysylltiedig â'r gŵyn. Mae'r hysbysiad gwahardd wedi cael ei dynnu'n ôl ers hynny ar ôl datgomisiynu a gwaredu’r gwely. Cyhoeddwyd Hysbysiad Gwella i'r cwmni hefyd, hefyd o dan HASAWA, i sicrhau gwelliannau i asesiadau risg a rheolaethau cysylltiedig i atal perygl i ddefnyddwyr a gweithwyr. Mae'r cwmni wedi darparu tystiolaeth yn ddiweddar i ddangos bod gwelliannau bellach wedi'u sicrhau a bod gofynion yr hysbysiad wedi'u bodloni.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynglŷn â safle sy'n cynnig gwelyau haul i aelodau o'r cyhoedd, cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd ar environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk neu 01495 311556.
Mae llawer o sylw wedi’i roi i’r risgiau i iechyd a achosir gan or-amlygiad i belydrau uwchfioled (UV) o olau haul a'r defnydd o welyau haul. Mae nifer yr achosion o ganser y croen yn cynyddu. Prif achos canser y croen yw gor-amlygiad i belydrau uwchfioled (UV). Gall hyn fod o olau haul naturiol neu belydrau artiffisial o'r defnydd o welyau haul a lampau haul. Cadarnhawyd hefyd fod y risgiau’n uwch i'r rhai sy'n cael eu gor-amlygu i belydrau UV yn ifanc. Am y rheswm hwn y cyflwynwyd Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 a'r Rheoliadau cysylltiedig. Mae canser y croen fel arfer yn cymryd degawdau i ddatblygu, felly efallai na fydd yn dod yn amlwg tan flynyddoedd ar ôl yr amlygiad niweidiol.
Os hoffech ddysgu mwy am gadw'ch croen yn ddiogel a lleihau'r risg o ganser y croen, mae GIG y DU a Cancer Research UK yn cynnig cyngor defnyddiol sydd ar gael drwy'r dolenni isod:
https://www.nhs.uk/live-well/seasonal-health/sunscreen-and-sun-safety/
https://www.cancerresearchuk.org/about-cancer/causes-of-cancer/sun-uv-and-cancer/sun-safety