Bydd tri pharc plant ym Mlaenau Gwent yn cael eu hadnewyddu gydag offer newydd sbon eleni.
Bydd y gwelliannau yn cael eu cyflawni diolch i fuddsoddiad cyfunol gan Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru o £104,000) a £100,000 gan gynghorwyr Blaenau Gwent drwy eu cyllid Dewis yr Aelodau.
Bydd y cyllid yn cefnogi gwaith adnewyddu ac offer chwarae newydd, modern a hygyrch yn y parciau canlynol:
- Parc Pennant Street, Glynebwy
- Brynawel a'r Maes Hamdden, Brynmawr
Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gydag aelodau etholedig lleol i nodi'r hyn sydd ei angen ar bob safle, gan ganolbwyntio ar ddarpariaeth blynyddoedd cynnar ac elfennau chwarae hygyrch lle bynnag y bo modd.
Mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn adeiladu ar gyfres o welliannau a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda blaenoriaethau wedi'u nodi trwy adolygiad i gyfleusterau chwarae yn 2019. Bydd Wickstead Leisure yn cyflawni'r trawsnewidiadau, gyda'r gwaith yn cael ei gwblhau erbyn yr haf gobeithio.
Ochr yn ochr â'r gwaith adnewyddu, mae gwaith ar y gweill i ddatblygu Strategaeth Chwarae newydd ar gyfer Blaenau Gwent, gyda chymunedau'n cael eu gwahodd ar hyn o bryd i rannu eu barn ar gyfleusterau chwarae ar draws y fwrdeistref sirol. Gall pobl ddweud eu dweud yma.
Mewn sawl ardal, mae mannau chwarae hefyd yn cael eu cynnal a'u cefnogi gan grwpiau cymunedol lleol. Mae'r Cyngor wedi bod yn cydweithio â'r grwpiau hyn i helpu i sicrhau cyllid a dod o hyd i offer addas, gan adlewyrchu ethos cydweithredol Bargen Blaenau Gwent, sy'n hyrwyddo cydweithio er budd cymunedau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:
"Mae'n wych bod yr holl aelodau wedi dod at ei gilydd i gefnogi'r defnydd o gyllid Dewis yr Aelodau ar gyfer y parciau hyn, gan gydnabod yn llawn bwysigrwydd mannau chwarae o ansawdd uchel i'n plant a'n teuluoedd. Ein blaenoriaeth yw rhoi'r dechrau gorau i bob plentyn mewn bywyd ac mae chwarae mor bwysig o ran datblygiad eu sgiliau gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol. Bydd y gwelliannau mawr eu hangen yn sicrhau bod gan blant fannau diogel, hwyl a chynhwysol i'w mwynhau am flynyddoedd i ddod."

Yn y llun mae ardal chwarae wedi'i hadnewyddu yng Nglyncoed, Glynebwy.