Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymunedol Willowtown, Glynebwy, wedi mynd â’u dysgu allan o’r ystafell ddosbarth drwy greu a chyhoeddi llyfr ryseitiau cymunedol unigryw i blant, sy'n arddangos treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog eu hardal leol.
Fel rhan o’r prosiect, a arweiniwyd yn gyfan gwbl gan ddisgyblion, dewisodd plant ryseitiau gan deuluoedd o fewn y gymuned leol ac amlddiwylliannol, gan gynnwys prydau a drysorir a drosglwyddwyd rhwng cenedlaethau. O'r dechrau i'r diwedd, gwnaeth y disgyblion ymchwilio, ysgrifennu a darlunio’r llyfr eu hunain, gan ddangos creadigrwydd, gwaith tîm, ac ymdeimlad cryf o gymuned.
Wedi'i gynllunio fel llyfr coginio i ddechreuwyr, sy'n addas i blant, nod y cyhoeddiad yw annog teuluoedd i goginio gyda'i gilydd, magu hyder yn y gegin, ac ysbrydoli annibyniaeth. Wedi'i lunio a'i ddylunio'n broffesiynol, mae'r llyfr yn cario ISBN swyddogol, gan roi gorffeniad gloyw, cyhoeddedig iddo.
Dywedodd y Pennaeth Mel Evans:
"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o lais y disgybl a dysgu creadigol ar waith. Mae ein plant wedi gweithio'n anhygoel o galed i gynhyrchu rhywbeth ystyrlon sy'n dathlu dysgu a chymuned."
Meddai disgybl Blwyddyn 5, Caleb Rich:
"Gwnaethon ni fynd â'r tatws a'r letys rydyn ni wedi'u tyfu yn ein gardd gymunedol i siop Big Bocs Bwyd ac aeth rhai o’r rhieni â nhw adref gyda nhw gwneud pryd iach. Rwy'n mwynhau dysgu am sut i dyfu bwyd a sut i'w wneud yn iach."

Mae gan yr ysgol siop gymunedol Big Bocs Bwyd, gardd/gofod tyfu a chegin hefyd. Mae Llythrennedd Bwyd yn cael ei gyflwyno o'r Feithrinfa i Flwyddyn 6 lle rhoddir cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu o ble mae eu bwyd yn dod, sut i greu prydau iach, maethlon, sgiliau coginio a phwysigrwydd diogelwch bwyd ac ailddosbarthu o fewn y gymuned.
Anogir dysgwyr i fod yn annibynnol ac i gymryd rolau gweithredol yn yr ardd a'r siop, gan eu galluogi i ddatblygu sgiliau rhifedd a llythrennedd ochr yn ochr â sgiliau cymdeithasol ac emosiynol i gefnogi lles. Mae hyn i gyd yn cael ei gefnogi gan grŵp o riant-wirfoddolwyr dibynadwy y mae eu cefnogaeth yn parhau i wneud y prosiect yn llwyddiant.
Mae'r Cyngor yn archwilio Bargen Blaenau Gwent, ffordd newydd o weithio gyda chymunedau gyda'r nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac adeiladu rhywbeth gwell gyda'n gilydd. Mae Willowtown wir yn helpu i hyrwyddo a chefnogi ffyrdd iach o fyw a lles cymunedol.
Gallwch brynu copi o'r llyfr o'r ysgol neu Amazon, a bydd yn cael ei stocio yng Ngŵyl y Gelli eleni. Os ydych chi'n fusnes lleol a fyddai'n hapus i stocio'r llyfr, cysylltwch â'r ysgol.
