Dennis y cerbyd sbwriel yn ymweld ag Ysgolion Blaenau Gwent i helpu plant ysgol i ddysgu am wastraff ac ailgylchu

Bydd Dennis y cerbyd casglu sbwriel (RCV) yn edrych yn gyfarwydd iawn o'r tu allan – mae’n edrych fel lori casglu gwastraff arferol.  Fodd bynnag, mae'r lori’n agor i ddatgelu lle i tua 15 o blant gymryd rhan mewn gwersi, gyda sgriniau teledu a byrddau gwyn yn ychwanegu ymhellach at y naws ystafell ddosbarth. 

Bydd y cerbyd canolfan addysg symudol hwn yn ymweld ag ysgolion Blaenau Gwent i addysgu plant am wastraff ac ailgylchu, newid hinsawdd, cynaliadwyedd a llawer o bynciau eraill sy'n ymwneud â materion amgylcheddol allweddol.

Cadwch lygad am Dennis yr RCV yr wythnos hon – allwch chi ddim methu’r lluniau llachar sy'n addurno'r tu allan. Bydd yn ymweld â'r ysgolion canlynol:

Mehefin 2024
•    Dydd Mawrth 11eg - Campws Tillery Street, Abertyleri
•    Dydd Mercher 12fed - Ysgol Gynradd Willowtown, Glynebwy
•    Dydd Iau 13eg - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair, Brynmawr
•    Dydd Gwener 14eg - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair, Brynmawr
•    Dydd Llun 17eg – Ysgol Gynradd Blaen y Cwm, Brynmawr
•    Dydd Mawrth 18fed - Ysgol Gynradd Blaen y Cwm, Brynmawr
•    Dydd Mercher 19eg - Campws Tillery Street, Abertyleri
•    Dydd Iau 20fed - Ysgol Gynradd Beaufort Hill, Glynebwy
•    Dydd Gwener 21ain - Ysgol Gynradd Beaufort Hill, Glynebwy

 
Cadwch lygad am Dennis y Cerbyd Casglu a fydd yn ymweld â rhai o'n hysgolion yn y fwrdeistref.