Dathlu cyfraddau bwydo ar y fron Blaenau Gwent mewn digwyddiad Nadoligaidd i'r teulu

Mae mamau Blaenau Gwent yn dathlu cyflawniad rhyfeddol y Nadolig hwn wrth i gyfraddau bwydo ar y fron yn y fwrdeistref godi i 68% ym mis Hydref 2025; cynnydd o dros 28% ers dechrau'r ymgyrch 'Bwydo ar y Fron Blaenau Gwent' a lansiwyd yn 2024.

Daeth teuluoedd, cefnogwyr a phartneriaid ynghyd yn Bedwellty House yn Nhredegar ar gyfer digwyddiad Nadoligaidd arbennig i nodi'r garreg filltir a dathlu rôl y gymuned wrth ysgogi newid cadarnhaol i fabanod a theuluoedd ledled y fwrdeistref.

Mae'r ymgyrch wedi helpu i drawsnewid Blaenau Gwent o fod yr Awdurdod Lleol gyda'r cyfraddau bwydo ar y fron isaf yn y DU i fod yn gymuned sy'n gyfeillgar i fwydo ar y fron, gan arwain y ffordd ledled Cymru. Wedi'i chynllunio gan famau lleol ar gyfer mamau lleol - ac yn enghraifft berffaith o Awdurdod Lleol, BIPAB a'r gymuned yn cydweithio i fynd i'r afael â problem - mae'n grymuso menywod trwy rwydweithiau cymorth cymheiriaid, sesiynau galw heibio rheolaidd, a mannau croesawgar. Heddiw, mae 66 o adeiladau cyhoeddus a busnesau wedi cofrestru i Gynllun 'Croesawu Bwydo ar y Fron' Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - y nifer uchaf yng Ngwent.

Yn ysbryd Y Fargen, ffordd newydd o weithio gyda chymunedau y mae'r Cyngor yn ei harchwilio, mae'r gymuned rieni wedi bod yn rhan fawr o'r ymgyrch. Fe wnaeth eu hadborth ein helpu i lunio cynllun gweithredu a fyddai'n gweld mwy o gefnogaeth a chyngor yn cael ei gynnig i famau newydd. Mae rhai mamau sy'n bwydo ar y fron yn y gymuned hefyd wedi hyfforddi fel gwirfoddolwyr i ddod yn weithwyr cymorth cymheiriaid ac erbyn hyn yn rhedeg grwpiau cymorth bwydo ar y fron. Mamau lleol hefyd yw wyneb yr ymgyrch.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Rydyn ni wrth ein bodd i ddathlu'r cynnydd anhygoel hwn gyda'n teuluoedd. Mae'r ymgyrch hon yn newid diwylliant, hyder a chefnogaeth gymunedol o amgylch bwydo ar y fron ym Mlaenau Gwent. Ein nod yw parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn, fel bod pob babi yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Yn unol â'n dull Egwyddorion Marmot a Bargen Blaenau Gwent, rydym wedi gweithio gyda'r gymuned a'r partneriaid i wneud i hyn ddigwydd – da iawn bawb."

Mae bwydo ar y fron yn cynnig manteision gydol oes i'r fam a'r babi. Mae'r cynnydd i 68% yn golygu bod mwy o famau ym Mlaenau Gwent bellach yn dewis bwydo ar y fron na pheidio, a dewisodd dros ddwy ran o dair o famau fwydo ar y fron ym mis Hydref - newid sy'n gwella canlyniadau'r blynyddoedd cynnar, yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac yn mynd i'r afael â thlodi plant gan fod bwydo ar y fron yn rhad ac am ddim.

Mae'r ymgyrch 'Blaenau Gwent yn Bwydo ar y Fron' yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn. Mae'n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â'r gymuned leol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae Bargen Blaenau Gwent yn ffordd newydd o weithio gyda chymunedau - contract cymdeithasol rhwng y cyngor, trigolion a phartneriaid. Mae'n nodi gweledigaeth gyffredin ar gyfer bwrdeistref decach, iachach a mwy gwydn - un lle mae anghydraddoldebau iechyd yn cael eu datrys a phob preswylydd yn cael ei rymuso i ffynnu.

Gallwch gymryd rhan yma.