Dathlu Bwyd Lleol a Chymuned yn Uwchgynhadledd Fwyd Blaenau Gwent 2025

Ar Ddiwrnod Bwyd y Byd 2025, cynhaliwyd Uwchgynhadledd Fwyd gyntaf Blaenau Gwent yn Nhŷ Bedwellty yn Nhredegar, gan ddod â grwpiau cymunedol, tyfwyr lleol, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus ac unigolion angerddol ynghyd am ddiwrnod o ddathlu, cydweithio a sgwrsio ynghylch bwyd.

Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor Blaenau Gwent, ynghyd â Phartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent. Gyda rhaglen lawn o drafodaethau panel, gweithdai a sesiynau rhyngweithiol, amlygodd y digwyddiad ymrwymiad y fwrdeistref i adeiladu system fwyd lleol iachach, tecach a mwy cynaliadwy.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid a'r gymuned leol i greu a chefnogi lle tecach a mwy cyfartal i fyw i bawb trwy sicrhau mynediad at fwyd iach a fforddiadwy gydag urddas, cryfhau rhwydweithiau bwyd cymunedol a busnes, ac adeiladu arferion bwyd cynaliadwy sy'n cefnogi'r amgylchedd a natur.



Ymhlith uchafbwyntiau'r diwrnod roedd:

•    Trafodaeth panel ar Strategaeth Bwyd Cymunedol lleol newydd y Bartneriaeth Bwyd, gan amlygu straeon llwyddiant lleol ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol
•    Gweithdai ymarferol gan gynnwys Diffyg Diogeledd Bwyd, Bwyd Iach yn y Sector Cyhoeddus, a Castell Howell ar ddarparu bwyd da ar draws Cymru
•    Sesiynau diddorol ar yr hinsawdd, natur, ac ymgysylltiad y trydydd sector mewn tyfu bwyd, gan gynnwys Taith Gardd Furiog gyda thynnu Sudd Afal o Goetiroedd Bryn Sirhowy

Darparodd y digwyddiad hefyd gyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr a llwyfan i leisiau ar lawr gwlad gael eu clywed, gan atgyfnerthu ymrwymiad y Cyngor i newid dan arweiniad y gymuned ac i wella llesiant trwy leihau anghydraddoldeb i sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc y dechrau gorau mewn bywyd a'r cyfle i ffynnu.

Meddai’r Cynghorydd Sonia Behr, Hyrwyddwr Hinsawdd Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae'r Uwchgynhadledd Bwyd yn enghraifft wych o sut y gall partneriaethau lleol gydweithio i yrru newid cadarnhaol. Fel ardal Marmot, mae'n ysbrydoledig iawn gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd i rannu syniadau ac ymrwymo i gymryd camau gweithredu dros ddyfodol bwyd iachach a mwy cynaliadwy ym Mlaenau Gwent.”

Yn y llun mae grawn lleol wedi tyfu gan sefydliad cymunedol yng Nghwmtyleri, Pentref Tyleri.