Dathlu Busnesau Blaenau Gwent, Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd 2020 (GEW20)



16 – 22 Tachwedd 2020

Bydd pobl o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn ymuno â miliynau o amgylch y byd yn y dathliad mwyaf o entrepreneuriaeth. Bydd dros 180 o wledydd yn dathlu, gyda dros 40,000 o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn ystod yr wythnos – yn cysylltu cyfranogwyr gyda chydweithwyr posibl, mentoriaid a buddsoddwyr. Mae Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd yn ysbrydoli pobl ym mhobman drwy weithgareddau lleol, cenedlaethol a byd-eang a gynlluniwyd i’w helpu i ymchwilio eu potensial fel hunan-gychwynwyr ac arloeswyr a bydd Blaenau Gwent yn ymuno yn y dathliadau. Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau yr wythnos hon yn y Fwrdeistref ar gyfer busnesau ac entrepreneuriaid newydd a phresennol:

Dydd Llun 16 

Rhwydwaith Busnes Menywod 
Adroddiad Chwarae Teg, Cyflwyniad Sara Flay a C&A cyffredinol  10:30am - 12pm

Gweminarau Cyflymu Cymru i Fusnesau:
Sylfeini Marchnata Digidol      9:30am - 11:30am
Marchnata Digidol Uwch        10:30am - 12:30pm
Gwefannau                          12pm - 2pm

Dydd Mawrth 17 

Diwrnod Clinig Busnes:
Cyfle i gwrdd cynghorwyr Banc Datblygu Cymru, Busnes Cymru a CBSBG 10am - 3pm

Gweminarau Cyflymu Cymru i Fusnesau:
Sylfeini Marchnata Digidol   9:30am - 11:30am
Marchnata Digidol Uwch     10:30am -12:30pm
Gwefannau                       12pm - 2pm

Dydd Mercher 18
 
Cymhorthfa Syniadau Mawr Cymru Cymorth syniadau busnes ar gyfer rhai 18-25 oed. Ffoniwch  01495 355700 i drefnu apwyntiad      10:30am - 12:30pm

Cyflymu Cymru i Fusnesau Sylfeini Cyfryngau Cymdeithasol  2pm - 4pm

Effaith Net BG Rhwydweithio Busnes Rhyngweithiol              5:30pm - 7pm

Dydd Iau 19 

Gweminarau Cyflymu Cymru i Fusnesau:
Y Swyddfa Ar-lein                    11:30am - 1pm
Cyfryngau Cymdeithasol Uwch  2pm - 4pm

Dydd Gwener 20 

Cronfa Effaith BG – Apwyntiadau cymorth dechrau busnes Ffoniwch y Tîm Arloesedd Busnes ar
01495 355700 i drefnu apwyntiad    10am - 12pm
 
Gweminarau Cyflymu Cymru i Fusnesau:
Y Swyddfa Ar-lein                       11:30am - 1pm
Cyfryngau Cymdeithasol Uwch     2pm - 4pm

I archebu ewch i: www.blaenaugwentbusinesshub.co.uk neu ffonio 01495 355700


Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol dros Adfywio a Datblygu Economaidd, Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae hwn yn gyfle gwych i gydnabod a dathlu entrepreneuriaid a busnesau ym Mlaenau Gwent. Mae’n gyfnod anodd i fusnesau ac entrepreneuriaid ac mae angen i ni gydnabod y rhai sy’n gweithio drwy’r flwyddyn i’w wneud yn llwyddiant. Maent yn hanfodol i’r economi lleol a hefyd i economi y Deyrnas Unedig.
Yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, mae Tîm Datblygu Economaidd Cyngor Blaenau Gwent yn trefnu ac yn hwyluso nifer o ddigwyddiadau ar gyfer rhai a all fod â syniad ar gyfer dechrau busnes neu p’un ai ydych yn fusnes presennol ac felly yn ystyried tyfu. Bydd digwyddiadau i ddarparu ar gyfer y gwahanol gynulleidfaoedd targed tebyg i fenywod mewn busnes, helpu pobl ifanc i ddod yn entrepreneuriaid yn yr oes ddigidol a chyfleoedd rhwydweithio.
Mae cyngor a chymorth busnes ar gael drwy’r flwyddyn drwy nifer o ddigwyddiadau a llwyfan busnes ar-lein rhad ac am ddim o’r enw Hyb Busnes Blaenau Gwent.”
I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru gyda Hyb Busnes Blaenau Gwent ewch i: www.blaenaugwentbusinesshub.co.uk