Datblygu System Gwybodaeth a Chyngor ynghylch Ansawdd Aer
Mae angen gwirfoddolwyr.
Helpwch ni i ddatblygu system i gefnogi aer glanach ar gyfer ein cymunedau
Mae llygredd aer yn niweidiol i'n hiechyd corfforol a meddyliol. Nod y prosiect hwn yw datblygu System Gwybodaeth a Chyngor ynghylch Ansawdd Aer sy'n darparu gwybodaeth a chyngor lleol ynghylch sut i leihau allyriadau a chadw eich cymuned yn ddiogel.
Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n byw yn unrhyw un o'r ardaloedd canlynol yng Nghymru: Abertawe, Casnewydd, Blaenau Gwent, Sir Fynwy. Os ydych yn dewis cymryd rhan, byddwn yn gofyn i chi gymryd rhan mewn sesiwn grŵp ffocws ar-lein (sy'n para tua 60-90 munud). Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn dangos y system arfaethedig i chi ac yn eich gwahodd i fynegi eich barn.
Ar ôl cwblhau'r sesiwn, bydd cyfranogwyr yn derbyn taleb siopa gwerth £25 am eu hamser.
Os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch Dr Menna Price, Prifysgol Abertawe (m.j.price@swansea.ac.uk)
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gyfranogwr, cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi arolwg byr gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol.
Mae'r ymchwil hon wedi'i chymeradwyo gan Is-bwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe.
