Cynllun gwaith ieuenctid yn hybu presenoldeb mewn ysgolion ym Mlaenau Gwent

Mae partneriaeth rhwng darpariaeth gwaith ieuenctid ac ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent yn cymryd camau cadarnhaol i wella presenoldeb disgyblion yn yr ysgol.

Gyda Gweithwyr Ieuenctid penodedig ym mhob ysgol uwchradd yn y fwrdeistref, mae tîm Gwasanaeth Ieuenctid 11-16 oed Blaenau Gwent yn darparu cymorth un-i-un a chymorth grŵp hanfodol, wedi'i deilwra i anghenion unigolion. Maent yn gwneud cynnydd sylweddol o ran gwella presenoldeb pobl ifanc a gyfeiriwyd at y prosiect.

Yn ystod y gwyliau hanner tymor yr wythnos hon mae grŵp o bobl ifanc 11-16 oed wedi bod yn mwynhau cwrs preswyl yn Summit Centre, Treharris, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau codi hyder fel dringo a byw yn y gwyllt.

Mae Summer, sy'n 15 oed ac yn mynd i Ysgol Sylfaenol Brynmawr, yn aelod o'r grŵp ieuenctid ac yn dysgu sut i ddringo creigiau yng y Summit Centre.

Dywedodd: "Cyn i mi ddechrau yn y clwb ieuenctid roedd dyddiau pan nad oeddwn i eisiau mynd i'r ysgol oherwydd pobl neu bynciau. Roedd fy nghanran presenoldeb lawr yn yr 80au.

"Ond mae mynd i'r clwb ieuenctid ar nos Lun wedi helpu gyda fy hyder a'm hymddygiad ac wrth siarad â'r gweithwyr ieuenctid sylweddolais ei bod hi'n bwysig mynd i'r ysgol ar gyfer fy nyfodol, nid dim ond ar gyfer fy addysg."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae gwaith ieuenctid yn darparu llawer mwy na gweithgareddau yn unig - mae'n creu mannau diogel lle gall pobl ifanc ffynnu go iawn a chyrraedd eu llawn botensial.

"Rwy'n falch iawn o weld yr effaith y mae'r cynllun hwn yn ei chael ym Mlaenau Gwent, nid yn unig o ran gwella presenoldeb mewn ysgolion, ond hefyd gwella lles a hyder pobl ifanc. Mae'n rhoi llais i bobl ifanc ac yn eu helpu i wneud dewisiadau cadarnhaol a manteisio ar gyfleoedd a fydd yn llywio eu dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Bobl ac Addysg:

"Rydym ar daith, yn gweithio gyda'n hysgolion a'n partneriaid, i wella presenoldeb yma ym Mlaenau Gwent. Mae rôl gweithwyr ieuenctid yn ein hysgolion yn gwbl sylfaenol o ran helpu pobl ifanc i fynychu a chyflawni, yn ogystal â bod yn unigolyn dibynadwy fel clust i wrando a darparu cefnogaeth a chyngor."

Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rhan allweddol yn y sector addysg ehangach. Yn ogystal â helpu i wella presenoldeb yn yr ysgol, gall sicrhau bod pobl ifanc yn hapus ac yn fodlon, yn cael eu cefnogi ac yn ddiogel, a'u bod yn gallu cael gafael ar gymorth pan fydd ei angen arnynt gan oedolyn dibynadwy.

Mae gweithwyr ieuenctid mewn sefyllfa unigryw i ymgysylltu â phobl ifanc mewn trafodaethau ynghylch ymddygiad peryglus ac yn aml yn gweithredu fel y cyswllt i gefnogaeth fwy arbenigol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dros £11.4m i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cymorth Ieuenctid yn 2025-26 i gefnogi darpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru.