Eich cyfle i gyflwyno safle newydd neu roi sylwadau ar safleoedd a gyflwynwyd.
Gall y Cyngor yn awr ailddechrau’r ail alwad am gam safleoedd ymgeisiol a gwybodaeth bellach y Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Roedd y Cyngor yn flaenorol wedi gwahodd cyflwyniadau gan ddatblygwyr, perchnogion tir a’r cyhoedd ar gyfer safleoedd y gellid eu hystyried ar gyfer datblygiad newydd, ail-ddatblygiad neu warchodaeth yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Caiff y safleoedd hyn eu galw yn “Safleoedd Ymgeisiol”. Mae Cofrestr o’r holl Safleoedd Ymgeisiol a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ar gael i’w gweld ar-lein.
Rhwng 30 Mawrth 2021 a 18 Mai 2021 bydd y Cyngor yn:
• Gofyn am sylwadau ar ddrafft ganfyddiadau asesiadau a gynhaliwyd yn y Safleoedd Ymgeisiol a gyflwynwyd.
Bydd angen i unrhyw un sy’n rhoi sylwadau gyflwyno ffurflen sylwadau.
• Cynnal 2il alwad am safleoedd yn arbennig yn ardaloedd Tredegar a Ebwy Fach Isaf
Bydd angen i unrhyw un sy’n hyrwyddo safleoedd newydd lenwi Ffurflen Safle Ymgeisiol
• Gofyn am wybodaeth bellach gan hyrwyddwyr safle.
Mae’r holl ddogfennau a ffurflenni ar gael i’w lawrlwytho ar-lein.
Gellir gweld copïau caled o ddogfennau a chasglu ffurflenni o bob llyfrgell leol sydd ar agor drwy wneud apwyntiad (dylid nodi fod llyfrgell Blaenau ar gau ar hyn o bryd) neu’r Swyddfeydd Cyffredinol, Y Gweithfeydd, Glynebwy.
Bydd swyddogion ar gael i drafod materion drwy gydol y broses. Gofynnir i chi ffonio 01495 354740 i drafod unrhyw faterion, neu i ofyn am i gopïau caled o ffurflenni a dogfennau gael eu hanfon atoch.
Bydd angen e-bostio’r holl sylwadau ar y canfyddiadau, ffurflenni wedi eu llenwi ar gyfer safleoedd ymgeisiol arall a gwybodaeth bellach at planningpolicy@blaenau-gwent.gov.uk neu eu hanfon at:
Tîm Cynlluniau Datblygu, Depot Canolog Brynmawr, Stad Ddiwydiannol Barleyfield, Brynmawr, NP23 4YF
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw: 18 Mai 2021.