I gydnabod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi llwyddo i ennill statws Caru Gwenyn, fel y cydnabyddir gan Dasglu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio, cynhaliwyd seremoni wobrwyo fawreddog yn y Swyddfeydd Cyffredinol.
Mae’r cynllun Caru Gwenyn yn fenter sy’n hyrwyddo creu amgylcheddau sy’n ffafriol i iechyd a lles pryfed peillio, sy’n hanfodol i’n hecosystemau a’n hamaethyddiaeth.
Cyflwynwyd y wobr ardystio fawreddog hon i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent gan Bleddyn Lake o Gyfeillion y Ddaear Cymru a Kathleen Caroll o Lywodraeth Cymru, i gydnabod ymrwymiad y cyngor i gefnogi pryfed peillio lleol a gwella bioamrywiaeth.
Dywedodd Bleddyn Lake, ar ran Cyfeillion y Ddaear, “Rydym yn falch iawn o fod yn dyfarnu’r statws Caru Gwenyn i Gyngor Blaenau Gwent, i gydnabod y camau y maent wedi ymrwymo i’w cyflawni i helpu i gefnogi pryfed peillio a mynd i’r afael â’r pwysau niferus y mae ein pryfed peillio yn eu hwynebu.”
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Le a’r Amgylchedd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, “Rydym yn cydnabod ein bod mewn argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd ar hyn o bryd a’i bod yn hanfodol bwysig ein bod yn dangos ein hymrwymiad i geisio mynd i’r afael â’r heriau hyn gan y bydd colli mwy o fioamrywiaeth yn cynyddu newid hinsawdd gan fod y ddau yn gynhenid gysylltiedig. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cynnal ac yn gwella cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio a bywyd gwyllt arall ond hefyd yn creu gwydnwch ecosystemau. Felly, rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill statws Caru Gwenyn.”