Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn falch o gyhoeddi ei fod y sir gyntaf yng Ngwent i lansio’r cynllun ‘Croesawu Bwydo ar y Fron’, gan ei gyflwyno ar draws wyth hyb Dechrau’n Deg a Chanolfan Plant Integredig Blaenau. Dyma'r cam cyntaf mewn menter ehangach a fydd yn gweld sawl busnes lleol hefyd yn ymuno i gefnogi mamau sy'n bwydo ar y fron.
Mae Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phum ardal Gwent. Ei nod yw hyrwyddo, amddiffyn a chefnogi hawliau rhieni i fwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus, gan helpu i normaleiddio bwydo ar y fron a chynyddu ei dderbynioldeb o fewn y gymuned.
Gyda chymorth Arweinydd Croesawu Bwydo ar y Fron ymroddedig, gall busnesau lleol ddod yn aelodau achrededig o'r cynllun, gan nodi eu hadeiladau fel sefydliadau croesawgar sy'n croesawu bwydo ar y fron. I gofrestru, mae'n ofynnol i fusnesau lenwi holiadur byr ac addo cefnogi'r pedwar pwynt Polisi Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent a ganlyn:
- Rydym yn croesawu ac yn cefnogi bwydo ar y fron unrhyw le o fewn ardaloedd cyhoeddus yr adeilad hwn
- Rydym yn darparu staff cymwynasgar a chyfeillgar sy'n deall anghenion mamau sy'n bwydo ar y fron a'u babanod
- Os yn bosibl, byddwn yn darparu cyfleusterau cyfforddus, priodol ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron
- Mae pob man cyhoeddus yn fannau DIM YSMYGU
Yn ogystal, cynhelir adolygiadau ar y marc 3 mis ac yn flynyddol wedi hynny i sicrhau llwyddiant ac ymrwymiad parhaus y cynllun.
Trwy gymryd rhan, mae busnesau'n helpu i greu amgylchedd lle mae mamau sy'n bwydo ar y fron yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi a’u croesawu. Mae'r fenter hon yn gam hollbwysig i sicrhau bod Blaenau Gwent yn dod yn fan lle gall pob rhiant fwydo eu plant ar y fron yn hyderus mewn mannau cyhoeddus.
Meddai Carla Baldwin, Ymwelydd Iechyd ac Arweinydd Bwydo Babanod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
“Diben y cynllun ‘Croesawu Bwydo ar y Fron’ yw grymuso rhieni i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn hyderus wrth fwydo eu babi ar y fron yn eu cymuned leol. Ein nod yw creu partneriaeth â busnesau lleol a lleoliadau cymunedol i gynnig amgylchedd cyfeillgar, croesawgar i rieni sy'n bwydo ar y fron. Trwy wreiddio’r cynllun hwn yn ein cymunedau, rydym yn helpu i normaleiddio bwydo ar y fron ac yn cefnogi rhieni i fwydo ar y fron yn hirach, gan wella canlyniadau iechyd i’r fam a’r plentyn.”
Mae Paula Adams, Arweinydd Gofal Plant Dechrau’n Deg a mam i fab 17 oed, yn rhannu ei phrofiad personol, gan ddweud:
“Rwy’n cefnogi’r rhaglen yn llwyr oherwydd pan gafodd fy mab ei eni’n gynamserol, ni chefais ddigon o gefnogaeth gan staff gofal iechyd, ac nid oedd bwydo ar y fron yn gweithio i ni, gan fy ngwneud yn siomedig. Mae’r profiad hwn wedi fy ngwneud yn angerddol dros gefnogi mamau heddiw, gan fod bwydo ar y fron yn ffordd mor naturiol o fwydo babi. Mae bod yn rhan o’r cynllun hwn yn helpu mamau a allai ei chael hi’n anodd ac yn darparu man diogel a chroesawgar iddynt.”
Meddai’r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a mam sy’n bwydo ar y fron:
“Mae’n wych gweld mamau Blaenau Gwent sy’n bwydo ar y fron yn cael eu cefnogi gan eu cymuned fusnes lleol. Mae'r cyngor, ynghyd â'n partneriaid iechyd, yn cydnabod pwysigrwydd darparu amgylchedd cyfforddus a chroesawgar i famau sy'n bwydo ar y fron yn eu bywydau bob dydd. Mae gweld mamau a babanod mewn amgylchedd cyfeillgar yng Nghanolfan Plant Integredig Blaenau yn dyst i effaith gadarnhaol y cynllun hwn.”
Meddai Ceri Bird, Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant:
“Rwyf wrth fy modd yn gweld lansio ein Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent ar ôl blwyddyn o ddatblygiad ac fel rhan o’n hymgyrch “Bwydo ar y Fron Blaenau Gwent”. Fe wnes i fwydo fy mab ar y fron 21 mlynedd yn ôl ac roedd hi mor anodd ceisio dod o hyd i safle bwydo ar y fron pan oddi cartref - byddwn yn aml yn mynd yn ôl i'r car i'w fwydo a hyd yn oed yn cael fy nghyfarwyddo i ddefnyddio toiledau merched mewn rhai bwytai.
Byddwn yn annog busnesau lleol ym Mlaenau Gwent i gofrestru ac ymuno â’n hymgyrch, mae’n hawdd a bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd ein cymuned wrth i ni normaleiddio a hybu bwydo ar y fron.”
Yn 2024, aeth Cyngor Blaenau Gwent ati i wella canlyniadau bwydo ar y fron ar draws y rhanbarth, gan anelu at sicrhau bod pob babi yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Daeth hyn i fodolaeth ar ôl i arolwg cenedlaethol a gynhaliwyd yn 2023 amlygu mai Blaenau Gwent oedd â’r cyfraddau isaf ar gyfer bwydo ar y fron yn y DU. Mae’n bleser gennym gyhoeddi fel rhan o’n hymgyrch barhaus fod cyfraddau’n cynyddu o fis i fis wrth i fwy o’n rhieni gydnabod bod bwydo ar y fron yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod. Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi mamau a thadau i wneud penderfyniadau gwybodus am fwydo babanod, gan eu grymuso i ymdopi â heriau a llwyddo ar eu taith bwydo ar y fron.
Os ydych yn fusnes lleol sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cynllun a dechrau’r broses achredu, cysylltwch ag arweinydd eich Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron lleol drwy gysylltu â’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01495 369610 neu anfon e-bost atom yn FIS@blaenau-gwent.gov.uk Rydym hefyd yn chwilio am fwy o gefnogwyr cymheiriaid bwydo ar y fron a gwirfoddolwyr rhieni yn ein hybiau Dechrau’n Deg, plis helpwch ni i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i holl fabanod Blaenau Gwent.