Cyngor Blaenau Gwent yn sicrhau £40,000 i gefnogi gofalwyr di-dâl

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi croesawu cyllid o £40,000 i'w helpu i barhau â'u gwaith hanfodol yn cefnogi gofalwyr di-dâl o bob oedran.

Mae'r arian wedi'i sicrhau unwaith eto drwy Gronfa Gymorth i Ofalwyr Llywodraeth Cymru, y mae'r Cyngor wedi ei defnyddio i gefnogi bron i 400 o ofalwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi cynnwys dyfarnu grantiau uniongyrchol, cynnal sesiynau cymorth ar ystod o bynciau gwahanol a threfnu gweithgareddau i ofalwyr ifanc.

Mae gofalwyr di-dâl wedi cael cymorth gyda chyllidebu personol, eu lles emosiynol a chorfforol, cymorth cyflogaeth, cyngor budd-daliadau a mynediad at dechnolegau newydd i helpu gyda'u rôl ofalu. Mae'r arwyr cudd hyn wedi elwa o grantiau i'w gwario ar eitemau hanfodol gan gynnwys bwyd, dillad ac eitemau trydanol, sydd wedi cael ei groesawu ar adeg pan mae costau byw wedi cynyddu'n ddramatig.

Mae gofalwyr ifanc wedi cymryd rhan mewn nifer o ddiwrnodau gweithgareddau ac yn y flwyddyn gyntaf cwblhaodd pedwar person ifanc eu Gwobr Dug Caeredin Efydd diolch i'r gronfa gan ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd a meithrin hyder, hunan-barch a gwytnwch emosiynol.

Ers 2022, mae'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr wedi cynnig cyllid grant i sefydliadau lleol ac wedi cynorthwyo bron i 30,000 o ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Mae'r cynllun yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a, diolch i’r penderfyniad i adnewyddu cyllid Llywodraeth Cymru, bydd yn rhedeg am flwyddyn arall tan fis Mawrth 2026, gan gefnogi 8,000 o ofalwyr ychwanegol.

Meddai'r Cynghorydd Helen Cunningham, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau yng Nghyngor Blaenau Gwent:

"Mae gofalwyr di-dâl o bob oed yn rhan hanfodol o'n cymunedau - yn dawel ac anhunanol yn cefnogi anwyliaid bob dydd. Mae eu gwytnwch a'u hymroddiad yn haeddu cydnabyddiaeth. Rwy'n falch iawn y gallwn barhau i gynnig y gefnogaeth hon i ofalwyr drwy'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr am flwyddyn arall. Mae'n caniatáu i ni roi ychydig o gymorth i helpu i leddfu peth o'r pwysau sy'n dod gyda bod yn ofalwr."

Meddai Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:

"Mae gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn cynnig gofal amhrisiadwy i aelodau o'r teulu, ffrindiau ac anwyliaid, sydd yn aml yn aberth personol mawr. Rydym wedi clywed gan ofalwyr di-dâl fod y Gronfa Gymorth i Ofalwyr wedi bod yn hanfodol yn eu helpu i gadw bwyd ar y bwrdd a gwres yn eu cartrefi. Mae'r rhaglen hon yn helpu i gynnal gofalwyr trwy rai o'r amseroedd anoddaf.

"Bydd y cyllid parhaus o £1.5 miliwn sy’n cael ei ddosbarthu ledled Cymru drwy Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn galluogi sefydliadau gofalwyr lleol a phartneriaid darparu i gyrraedd miloedd yn fwy o ofalwyr di-dâl i’w hamddiffyn rhag tlodi i mewn i 2026.

"Rydym wrth ein bodd fod Cyngor Blaenau Gwent wedi llwyddo i wneud cais am gyllid am flwyddyn arall i helpu'r gofalwyr y mae'n eu cefnogi. Gyda'n gilydd, rydym yn cynnig achubiaeth i ofalwyr di-dâl a'r cyfle iddynt gael cefnogaeth werthfawr."

Ynglŷn ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:

Nod Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, sy'n rhan o’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, yw llunio dyfodol gwell gydag ac i ofalwyr yng Nghymru drwy godi ymwybyddiaeth, grymuso gofalwyr a dylanwadu ar newid. Mae wedi ymrwymo i sicrhau bod pob gofalwr yn derbyn y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y mae’n ei haeddu. Mae'n gweithio'n agos ac ar y cyd â Phartneriaid Rhwydwaith - elusennau annibynnol lleol a rhanbarthol sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ymarferol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. 

Mae dros 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru - bydd 3 o bob 5 ohonon ni’n dod yn ofalwr ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae ein Partneriaid Rhwydwaith yn cefnogi mwy na 36,000 o ofalwyr yng Nghymru.

Ynglŷn â'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr:

Nod y Gronfa Gymorth i Ofalwyr, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw darparu gwasanaethau hanfodol a chyllid grant i gefnogi gofalwyr di-dâl sy'n wynebu caledi ariannol, yn enwedig oherwydd costau byw cynyddol.

Ers ei sefydlu yn 2022, mae'r gronfa wedi darparu cyllid grant i sefydliadau lleol a chynorthwyo bron i 30,000 o ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Mae'r grantiau hyn yn cynnig rhyddhad hanfodol i unigolion sy'n gofalu am anwyliaid mewn angen, gan helpu i leddfu pwysau ariannol. Diolch i gyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru, mae bellach yn rhedeg tan 2026 a bydd yn cefnogi 8,000 o ofalwyr ychwanegol.