Cyngor Blaenau Gwent yn sianelu eu hegni i mewn i sianeli gyli ar gyfer treial gwefru cerbydau trydan yn y cartref

Ar ôl llwyddiant ein hymgyrch drwy'r cyfryngau cymdeithasol ym mis Ionawr a wahoddodd breswylwyr i dreialu atebion gwefru ar y stryd, gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru, nodwyd nifer o atebion gwefru cerbydau trydan posibl i’w treialu. Mae'r cynhyrchion cychwynnol sy'n cael eu treialu yn gynhyrchion sianel gyli sy'n galluogi preswylwyr i gael pwyntiau gwefru yn y cartref heb orfod poeni am geblau ar y palmant neu'r ffordd.  Mae'r sianeli hyn yn cuddio'r cebl gwefru ac yn galluogi'r preswylydd i wefru cerbyd mewn ffordd ddiogel a hawdd.

Gosodwyd y gyli gwefru 'Kerbo' cyntaf gan y Tîm Priffyrdd ar 10 Gorffennaf 2024 yn Waunlwyd, Glynebwy. Dyma'r gosodiad cyntaf o'r fath yng Nghymru.  Bydd rhagor o osodiadau treial yn digwydd unwaith y bydd preswylwyr wedi derbyn yr holl gymeradwyaethau a thrwyddedau angenrheidiol.

 

SRhai o'r preswylwyr sy'n cymryd rhan yn y treial gwefru cerbydau trydan ar y stryd. Gallwch weld y sianel gyli wedi'i gosod yn ddiogel yn y palmant.

Mae yna opsiwn sianel gyli arall a fydd yn cael ei dreialu gan nifer o'r rhai sy'n cymryd rhan yn ein treial ac mae Swyddogion y Cyngor yn parhau i archwilio atebion gwefru ar y stryd ymhellach, gan ganolbwyntio ar helpu preswylwyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer y treial hwn neu breswylwyr sydd angen atebion amgen. Mae cyllid pellach ar gael yn y flwyddyn ariannol hon i gynnal astudiaethau dichonoldeb o fwy o atebion sydd ar gael ar y farchnad a'u haddasrwydd ar gyfer ein hardal ni. 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y treial neu os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'n treial yn y dyfodol, e-bostiwch: EVcharging@blaenau-gwent.gov.uk