Cyngor Blaenau Gwent yn llongyfarch myfyrwyr TGAU o bob cwr o'r fwrdeistref

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi llongyfarch dysgwyr wrth iddynt gasglu eu canlyniadau TGAU heddiw. Mae pobl ifanc o'n hysgolion uwchradd wedi cyflawni'n dda unwaith eto ar draws ystod eang o bynciau.

Ymunodd Cyfarwyddwr Strategol Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd y Cyngor, Dr Luisa Munro-Morris, â chydweithwyr yr Awdurdod Lleol wrth ymweld ag ysgolion y bore yma i longyfarch disgyblion a theuluoedd yn bersonol a diolch i staff a llywodraethwyr.

Meddai’r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

“Diolch i bawb a chwaraeodd ran yn y canlyniadau gwych heddiw. I’n dysgwyr - rydych chi wir yn sêr, a gobeithio y byddwch chi’n parhau i ddisgleirio ym mhopeth a wnewch. I staff ein hysgolion, llywodraethwyr, teuluoedd, a chymunedau ehangach yr ysgolion - diolch am y gefnogaeth a’r ymrwymiad diysgog rydych chi wedi’i roi i’n pobl ifanc drwy gydol eu taith addysgol. Llongyfarchiadau bawb - mwynhewch eich dathliadau.”

Ychwanegodd Dr Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Strategol Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

“Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr yma ym Mlaenau Gwent ac ar draws rhanbarth ehangach Gwent. Mae’r cyflawniadau heddiw yn ganlyniad i waith cydweithio cryf rhwng ein hysgolion, y Cyngor a’n partneriaid yn y Gwasanaeth Cyflawni Addysg. Gyda’n gilydd, rydym yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, i wneud y mwyaf o sgiliau a dysgu i bawb a grymuso unigolion i gyrraedd eu potensial llawn. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i’n holl fyfyrwyr ar gyfer y dyfodol.”