Cyngor Blaenau Gwent yn derbyn cyllid i fynd i'r afael â phroblem ludiog gwm cnoi ar strydoedd canol tref

Bydd grant gan y Chewing Gum Task Force, a weinyddir gan yr elusen amgylcheddol Keep Britain Tidy, yn helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i lanhau gwm a lleihau sbwriel gwm.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn rhoi cynlluniau ar waith i gael gwared â'r gwm cnoi sy'n gwneud strydoedd lleol yn flêr ar ôl derbyn grant o £27,500 i fynd i'r afael â'r broblem.

Mae'r cyngor yn un o 54 ledled y DU sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i’r Chewing Gum Task Force, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, am arian i lanhau gwm oddi ar balmentydd a'i atal rhag cael ei daflu eto.

Wedi'i sefydlu gan Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) a'i redeg gan yr elusen amgylcheddol Keep Britain Tidy, mae Cynllun Grant y Chewing Gum Task Force ar agor i gynghorau ledled y DU sy'n dymuno glanhau gwm yn eu hardaloedd lleol a buddsoddi mewn newid ymddygiadol hirdymor i atal gwm rhag cael ei ollwng yn y lle cyntaf. 

Ariennir y Tasglu gan wneuthurwyr gwm mawr gan gynnwys Mars Wrigley a Perfetti Van Melle, gyda buddsoddiad o hyd at £10 miliwn wedi'i wasgaru dros bum mlynedd.

Mae gwaith monitro a gwerthuso a gynhaliwyd gan Behaviour Change – menter gymdeithasol ddielw – wedi dangos, mewn ardaloedd a elwodd o'r flwyddyn gyntaf o ariannu, fod cyfradd is o sbwriel gwm yn dal i gael ei weld chwe mis ar ôl glanhau a gosod deunydd atal.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod cost glanhau blynyddol gwm cnoi i gynghorau yn y DU oddeutu £7 miliwn ac, yn ôl Keep Britain Tidy, mae tua 77% o strydoedd Lloegr a 99% o safleoedd manwerthu wedi'u staenio â gwm.

Yn ei ail flwyddyn, dyfarnodd y tasglu gyfanswm o £1.56 miliwn i 55 cyngor, gan helpu i lanhau tua 440,000m2 o balmant - ardal sy'n cyfateb i Ddinas y Fatican.

Drwy gyfuno gwaith glanhau strydoedd wedi'i dargedu gydag arwyddion wedi'u cynllunio'n arbennig i annog pobl i finio eu gwm, cyflawnodd y cynghorau a gymerodd ran ostyngiad o hyd at 60% mewn sbwriel gwm yn y ddau fis cyntaf.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: "Rydym yn croesawu'r gefnogaeth gan y Chewing Gum Task Force. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i fynd i'r afael â phroblemau sbwriel gwm yng nghanol ein trefi. Bydd arwyddion mewn safleoedd strategol yn helpu i godi ymwybyddiaeth o effaith sbwriel gwm ar ein hamgylchedd i'n helpu i greu stryd fawr lanach, heb gwm i drigolion ac ymwelwyr â'r fwrdeistref."

Dywedodd Allison Ogden-Newton OBE, prif weithredwr Keep Britain Tidy: "Mae sbwriel gwm cnoi yn weladwy iawn ar ein strydoedd mawr ac mae'n anodd ac yn ddrud i'w lanhau, felly mae croeso mawr i'r gefnogaeth i gynghorau gan y Chewing Gum Task Force a'r gwneuthurwyr gwm.

"Fodd bynnag, ar ôl i’r gwm gael ei lanhau, mae'n hanfodol atgoffa'r cyhoedd mai dim ond un lle y dylech daflu eich sbwriel, boed yn gwm neu unrhyw beth arall – y bin – a dyna pam mae elfen newid ymddygiad gwaith y tasglu mor bwysig."