Mae safle’r Gweithfeydd yng Nglynebwy yn parhau i ddatblygu wrth i Gyngor Blaenau Gwent ddarparu dewis deniadol o unedau busnes i ateb y galw o fewn y fwrdeistref.
Sicrhawyd cyllid gan y Cyngor, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) gyda chyfraniadau fel sy’n dilyn:
• Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent - £1,630,000
• WEFO - £2,580,000
• Llywodraeth Cymru - £3,640,000
Cafodd gofodau ansawdd uchel ar gyfer busnesau eu creu yn yr Unedau Hybrid yn Rhodfa Calch fel rhan o fenter ar y cyd gyda Llywodraeth Cymru.
Mae Rhodfa Calch yn cynnwys tri adeilad ar wahân yn cynnwys naw uned ac maent yn ddelfrydol ar gyfer busnesau technolegol gydag uchelgais am dwf allweddol. Mae datblygiad blaengar arall ar safle’r Gweithfeydd, a elwir yn Bocs Hwb, yn cynnig amrywiaeth o safleoedd sy’n swyddfeydd wedi eu trawsnewid o gynwysyddion llongau. Mae’r safleoedd ffasiwn newydd yma yn ddelfrydol ar gyfer busnesau ac entrepreneuriaid a chânt eu lansio yn ddiweddarach eleni gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn awr yng ngofal y ddau ddatblygiad ac mae Thales, arweinydd technoleg byd-eang, eisoes yn defnyddio pump Uned Hybrid.
Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:
“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ar gyfer Blaenau Gwent sy’n parhau i hybu adfywiadsafle strategol y Gweithfeydd. Bydd hyn yn gyfle rhagorol i fusnesau i dyfu a datblygu yn yr ardal gan greu cyflogaeth a helpu i gefnogi cadwyni cyflenwi lleol.”
Mae rhaglen Cymoedd Technoleg yn ymrwymiad £100 miliwn deng-mlynedd gan Lywodraeth Cymru gyda Blaenau Gwent yn greiddiol. Gan adeiladu ar dreftadaeth gweithgynhyrchu hirsefydlog y rhanbarth, nod Cymoedd Technoleg yw manteisio ar y cyfleoedd sy’n deillio o’r pedwerydd chwyldro diwydiannol – yn arbennig ym meysydd 5G, technoleg batri, ymchwil a chymhwysiad digidol a seibr – cefnogi swyddi gwerth uchel, cynaliadwy, denu buddsoddiad a chreu cyfleoedd i’r rhanbarth. Yn unol â Chynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru, egwyddorion creiddiol y rhaglen Cymoedd Technoleg yw twf, gwaith teg a datgarboneiddio.