Mae gwaith atal llifogydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer y cymunedau ym Mlaenau Gwent yr effeithiwyd arnynt waethaf gan stormydd y llynedd.
Heddiw, mae Cyngor Blaenau Gwent wedi cymeradwyo cynlluniau gwerth cyfanswm o £800,000, sy'n cynnwys gwaith ar gwlfer yn y Cwm ynghyd â draeniau gwell ac ailbroffilio'r lôn fynediad yng nghefn Stryd y Brenin; ailosod a gwella cwlfer yn Llanhiledd a mesurau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer eiddo yn Stryd yr Eglwys, Tredegar.
Gwnaeth y Cyngor y penderfyniad i symud ymlaen ar frys i sicrhau'r arbenigedd sydd ei angen ac i recriwtio contractwyr cyn gynted â phosibl.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gwaith cychwynnol i'r domen lo yng Nghwmtyleri a brofodd dirlithriad fis Tachwedd diwethaf. Mae ymchwiliadau ar y safle bellach wedi dod i ben a byddant yn llywio'r rhaglen waith yn y dyfodol sydd ei hangen er diogelwch tymor hwy y domen.
Meddai’r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd:
"Rwy'n falch bod cynghorwyr yn unfrydol wedi cefnogi'r penderfyniad brys i wneud gwaith atal llifogydd yn yr ardaloedd a darwyd galetaf gan ddigwyddiadau tywydd diweddar. Rydw i wedi gweld gyda’m llygaid fy hun y dinistr a achoswyd i gartrefi a chymunedau yn ystod Storm Bert. Mae angen i ni weithredu'n gyflym i roi mesurau ar waith i amddiffyn y llefydd mwyaf agored i niwed."
Dioddefodd dros 100 o gartrefi ym Mlaenau Gwent lifogydd yn ystod glaw digynsail Storm Bert fis Tachwedd diwethaf. Gwnaeth y Cyngor gynnig cefnogaeth gyda glanhau a mynediad at gymorth ariannol, gan gynnwys ei gynllun grant adfer llifogydd ei hun a sefydlwyd yn gyflym i helpu trigolion ar y pryd.
Bydd gwaith ar y cwlfer yn y Cwm yn cynyddu'r capasiti yn ystod cyfnodau hir o law trwm ac yn caniatáu mynediad diogel i beiriannau at ddibenion glanhau. Yn Stryd y Brenin, bydd draenio gwell yn cael ei ddatblygu, yn ogystal â chwlfer cario dŵr wyneb newydd, a bydd wyneb y lôn yn cael ei ailbroffilio i ddargyfeirio dŵr i ffwrdd o eiddo.
Yn Llanhiledd, bydd y gwaith yn cynnwys ailosod ac uwchraddio'r cwlfer presennol o arglawdd y rheilffordd ger Stryd y Rheilffordd i lawr i'r afon. Bydd y cwlfer yn cael ei wneud yn fwy i gynyddu capasiti ac yn gollwng i'r afon mewn lleoliad newydd i lawr yr afon o'r orsaf bwmpio.
Yn Stryd yr Eglwys, Tredegar, bydd y gwaith yn cynnwys mesurau amddiffyn rhag llifogydd a mesurau ategol eraill i amddiffyn rhag llifogydd yn y dyfodol. Mae'r eiddo hyn wedi cael eu heffeithio gan lifogydd sawl gwaith.