Mae Cyngor Blaenau Gwent yn cymryd camau rhagweithiol i wella lles, ymddygiad a deilliannau dysgu disgyblion drwy gyflwyno canllawiau cyson ar ddefnyddio ffonau symudol a dyfeisiau clyfar mewn ysgolion.
Bydd y canllawiau, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad ag ysgolion ac undebau llafur, yn cael eu rhannu gyda'r holl ysgolion a chyrff llywodraethu a gellir eu gweithredu ar ôl hanner tymor mis Hydref 2025 ar adeg a chyflymder a bennir gan leoliadau unigol.
Daw'r symudiad hwn mewn ymateb i dystiolaeth gynyddol gan ysgolion y fwrdeistref o effaith negyddol dyfeisiau symudol ar ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, rhyngweithio cymdeithasol, a chanolbwyntio. Mae ymchwil gan, er enghraifft, UNESCO, Estyn a'r NEU, wedi tynnu sylw at sut y gall defnydd anghyfyngedig o ddyfeisiau amharu ar ddysgu a chyfrannu at broblemau ymddygiadol.
Mae'r canllawiau’n ddull gweithredu a argymhellir, ac mae gan rai ysgolion reolau ar waith yn barod mewn perthynas â defnyddio dyfeisiau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, ond mae Penaethiaid wedi dangos cefnogaeth gref i ddull gweithredu cyson i'w fabwysiadu ar draws amgylchedd dysgu'r fwrdeistref. Cefnogwyd y canllawiau gan Gabinet y Cyngor a'r Pwyllgor Craffu Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd.
Uchafbwyntiau Allweddol:
- Rhaid diffodd ffonau symudol a dyfeisiau clyfar a'u storio yn ystod y diwrnod ysgol, gan gynnwys amseroedd egwyl.
- Bydd eithriadau yn cael eu gwneud ar gyfer disgyblion ag anghenion meddygol neu hygyrchedd.
- Mae gan ysgolion ymreolaeth o hyd i deilwra polisïau a phenderfynu ar sancsiynau priodol.
- Anogir staff a gwirfoddolwyr i ddangos esiampl gyda defnydd cyfrifol o ddyfeisiau.
- Bydd llythyrau’n cael eu hanfon at rieni/gofalwyr yn esbonio pam mae'r canllawiau’n cael eu mabwysiadu a'u manteision.
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:
"Mae ymchwil yn dangos bod cyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol yn helpu i greu amgylchedd dysgu mwy diogel, yn gwella canolbwyntio ar ddysgu, ac yn hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol. Mae'r canllawiau hyn yn rhoi disgyblion yn gyntaf—cefnogi lles, gwella ymddygiad, a'u helpu i ffynnu. Dywedodd penaethiaid wrthym y byddai dull cyson wir yn gwneud gwahaniaeth, felly mae hwn yn gam rhagweithiol sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod system addysg Blaenau Gwent y gorau y gall fod."