Cynghorwyr yn cytuno ar Ryddid Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i athletwr a dor-rodd recordiau

Pleidleisiodd cynghorwyr Blaenau Gwent yn unfrydol i roi Rhyddid y Fwrdeistref i'r athletwr Steve Jones MBE.

Nododd y llynedd 40 mlynedd ers buddugoliaeth aruthrol Steve Jones ym Marathon Chicago ym 1984, buddugoliaeth a hoeliodd sylw’r byd a chadarnhau ei le yn hanes athletau. Ar y diwrnod hwnnw ym 1984, gwnaeth Jones o Lynebwy nid yn unig groesi’r llinell derfyn yn gyntaf ond hefyd chwalu recordiau, gan ddangos cyfuniad rhyfeddol o ddyfalbarhad, penderfyniad, ac ewyllys pur.

Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Rhedeg Parc Bryn Bach i goffáu llwyddiannau Steve a rhoi sylw i’w fuddugoliaethau.

Y nod yw sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hysbrydoli gan ei daith ryfeddol a bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysgogi darpar athletwyr.

Pan gipiodd Steve y teitl ym Marathon Chicago, gwnaeth fwy na dim ond ennill ras; gosododd record byd newydd, gan gwblhau'r cwrs mewn 2 awr, 8 munud a 5 eiliad.

Mae'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor dros Bobl ac Addysg ac aelod ward dros Dde Glynebwy, wedi bod yn rhan o'r cynlluniau i anrhydeddu Steve. Meddai:

"Rwy'n falch iawn bod cynghorwyr heddiw wedi rhoi eu cefnogaeth lawn i ddyfarnu Rhyddid Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i'r rhyfeddol Steve Jones. Mae taith Steve o'n tref Glynebwy i lwyfan y byd yn dyst i'w ymroddiad a'i angerdd diwyro am y gamp. Gwnaeth Glynebwy, tref sy'n adnabyddus am ei threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog, siapio Jones yn unigolyn gwydn a gweithgar. Mae ei stori yn parhau i daro tant, gan ein hatgoffa bod cyflawniadau eithriadol o fewn cyrraedd gydag angerdd, ymroddiad a gwaith caled.

"Ein gobaith yw adeiladu teyrnged addas i chwedl go iawn ac ysbrydoli llawer mwy i ddilyn eu breuddwydion gyda'r un egni a phenderfyniad a ddangosodd Steve trwy gydol ei yrfa ddisglair."

Meddai Lee Aherne, o Glwb Rhedeg Parc Bryn Bach:

"Rwy'n falch iawn y bydd Cyngor Blaenau Gwent yn anrhydeddu Steve fel hyn. Mae Steve yn arwr chwaraeon Cymreig go iawn a ddaeth, gyda gwaith caled, yn rhedwr marathon gorau'r byd, i gyd tra’n gwasanaethu yn yr RAF."