Heddiw, yn unfrydol, mae cynghorwyr Blaenau Gwent wedi cymeradwyo penodi Stephen Vickers yn Brif Weithredwr parhaol ar y Cyd ar gyfer Cynghorau Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a Thorfaen.
Daw hyn yn sgil cymeradwyaeth cynghorwyr yn Nhorfaen yn gynharach yr wythnos hon.
Mae'r adroddiadau a gyflwynwyd gerbron y ddau gyngor yn dilyn 'cyfnod darganfod' o 7 mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cytunodd y ddau gyngor i rannu rôl y Prif Weithredwr, tra bod gwaith archwilio ar y gweill er mwyn deall y cyfleoedd a'r risgiau a fyddai’n amlygu wrth weithio'n agosach.
Daeth yr adolygiad, a gefnogwyd gan Bartneriaethau Lleol, i fwcl ar ôl ymgysylltu â chynghorwyr, uwch-swyddogion a staff, yn ogystal â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Undebau Llafur.
Argymhellai’r adroddiadau benodi Prif Weithredwr ar y cyd yn barhaol, sefydlu tîm arwain ar y cyd a gwneud gwaith pellach i archwilio’r cyfleoedd a’r buddion i wasanaethau. Amlygodd yr adroddiadau hefyd yr awydd cryf a brwdfrydig ymhlith cynghorwyr i gydweithio’n agosach.
Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, y Cynghorydd Steve Thomas:
"Mae'r cydweithio hwn yn arwydd o’n hymrwymiad i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o reoli pwysau ariannol, a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau hanfodol ar yr un pryd. Trwy rannu arbenigedd ac adnoddau, rydym mewn sefyllfa well i wasanaethu ein cymunedau.
"Bydd cael Prif Weithredwr parhaol ar y Cyd yn cryfhau arweinyddiaeth y ddau gyngor, gan ddarparu gweledigaeth unedig a sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion ein preswylwyr yn effeithlon ac yn effeithiol.
"Mae'r fenter hon yn golygu bod dau gyngor yn cydweithio fel partneriaid cyfartal, gan rannu adnoddau ac arbenigedd i fynd i'r afael â heriau cyffredin. Nid yw'n golygu uno. Yn hytrach, mae'n sicrhau bod penderfyniadau lleol yn parhau'n gadarn yn nwylo pob awdurdod unigol, gan ddiogelu annibyniaeth a hunaniaeth unigryw Blaenau Gwent a Thorfaen a chyflawni targedau cyffredin er budd ein trigolion."
Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt:
"Dydy’r sefyllfa fel ag y mae ddim yn opsiwn synhwyrol na deniadol os ydyn ni eisiau gwella canlyniadau i breswylwyr a chynnal gwasanaethau lleol hanfodol.
"Mae ein penderfyniad yn cefnogi ffederasiwn o ddau gyngor sydd â statws cyfartal. Rydyn ni eisiau alinio ein sefydliadau lle mae'n gwneud synnwyr i ni wneud hynny, a sicrhau arbedion effeithlonrwydd sy'n dechrau ar y brig, gan gynnwys rhannu costau cyflogau tîm arwain ffederal. Bydd hyn yn ein galluogi i ffocysu adnoddau ar dalcen y gwasanaethau lleol yn ein cymunedau a chynnal ein sofraniaeth ariannol a gwleidyddol a'n trefniadau llywodraethu ar yr un pryd.
"Mae hefyd yn agor y drws i rannu arfer gorau a sgiliau arbenigol, a bydd yn gwella cydnerthedd timau bach, yn ein helpu i recriwtio, ac yn lleihau costau rheoli a gweinyddu."
Yn dilyn y penderfyniadau, bydd y cynghorau nawr yn ymgysylltu â Phartneriaethau Lleol, sy'n fenter ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru, er mwyn datblygu achos amlinellol strategol gan gynnwys model ariannol a meini prawf ar gyfer alinio gwasanaethau a’u blaenoriaethu.