Cymorth wrth hunanynysu

Mae’n hanfodol fod unrhyw un gyda symptomau coronafeirws yn hunanynysu ar unwaith ac yn cael prawf yn gyflym. Os cewch brawf positif, mae’n rhaid i chi hunanynysu ac mae’n rhaid i bawb y buoch mewn cyswllt â nhw wneud hynny hefyd.

Gall pobl y dywedir wrthynt am hunanynysu am hyd at 14 diwrnod fod yn gymwys am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

Gall pobl ar incwm isel wneud cais i dderbyn taliad o £500 os yw gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru yn gofyn iddynt wneud hynny.

I wirio os ydych yn gymwys ac i wneud hawliad
https://iweb.itouchvision.com/portal/f?p=customer:category_link:::::CUID,LANG:B4D3C703F06B1E220C4C8E06531401A8CA0F08BF,CY&P_LANG=cy