Cyflwyno Tîm Pêl-droed Merched Blaenau Gwent cyn Taith Cwpan y Byd Street Child

Roedd Theatr y Metropole yn Abertyleri yn llawn dathlu a balchder neithiwr wrth i Wasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent gyflwyno eu Tîm Pêl-droed Merched yn swyddogol, a fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd Street Child yn Ninas Mecsico y flwyddyn nesaf.

Cyflwynodd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid, 10 merch ifanc arbennig, rhwng 14 a 17 oed, sydd wedi'u dewis i gymryd rhan yn y twrnament rhyngwladol sy’n cael ei drefnu gan Street Child United. Daeth y noson â theuluoedd, cefnogwyr, arweinwyr lleol a chynrychiolwyr ynghyd i ddathlu taith y tîm a'r neges bwerus y tu ôl i'r ymgyrch: 'mae pob plentyn yn haeddu llais, tîm a dyfodol.'

"Mae hyn yn fwy na phêl-droed - mae'n ymwneud â grymuso, cydraddoldeb, a rhoi'r platfform maen nhw'n ei haeddu i bobl ifanc," meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, yr Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd. "Mae'r merched hyn yn llysgenhadon dros Flaenau Gwent a thros hawliau plant ledled y byd."

Mae Cwpan y Byd Street Child yn cyfuno chwaraeon, celf ac eiriolaeth, gan roi cyfle i bobl ifanc o amrywiaeth o gefndiroedd ddisgleirio ar lwyfan byd-eang. Bydd tîm Blaenau Gwent nid yn unig yn cystadlu mewn gemau pêl-droed ond hefyd yn cymryd rhan mewn gŵyl celfyddydau a Chyngres dan arweiniad pobl ifanc sy'n canolbwyntio ar hawliau plant.

Yn ystod y lansiad, rhannodd y tîm eu gobeithion, eu breuddwydion a'u cynlluniau i godi arian ar gyfer y daith sydd o'u blaenau. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn darparu nawdd o £5,000 ond mae'r tîm yn chwilio am fwy o gyfleoedd noddi. Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â Kristian Gay yn kiristian.gay@blaenau-gwent.gov.uk neu ffoniwch 07412 614067.

Meddai Aelod o'r Tîm, Lilly-May York: "Mae hwn yn gyfle unwaith-mewn-oes i ni. Rydyn ni'n falch, rydyn ni'n barod, ac allwn ni ddim aros i gynrychioli ein cymuned yn Ninas Mecsico."

Mae Neville Southall, cyn-gôl-geidwad Cymru ac Everton, sy'n gweithio i Gyngor Blaenau Gwent fel Llysgennad Cyflogadwyedd Chwaraeon, Iechyd a Lles, yn un o gefnogwyr mawr y tîm ac yn fentor iddynt.

Meddai: "Rwy'n falch iawn bod Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent wedi llwyddo i ennill lle yng nghwpan y byd Street Child yn Ninas Mecsico, dyma'r tro cyntaf dwi’n meddwl i dîm benywaidd o Gymru gyrraedd cwpan byd! I'r 10 merch a'r staff, bydd yn brofiad anhygoel ac yn creu hanes i'n hardal a'n gwlad. Mae'n rhaid i'r tîm godi rhywfaint o'r arian eu hunain, felly mae croeso mawr i unrhyw roddion. Mae ’na gyfleoedd nawdd, felly cefnogwch ein merched sy'n creu hanes."

Y tîm a fydd yn cystadlu yw:

Sienna-Mae Cripps
Darcy Gallier-Morgan
Lexi Hamer
Emily Brown
Ayva Batkin
Alexandra Carpe
Peyton Ayears
Ruby Jarett
Lilly-May York
Phoebe Lane  

Lluniau gan Seren Friel.