Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi anrhydeddu Clwb Pêl-rwyd Cymric gyda thystysgrif cydnabyddiaeth arbennig am eu hymrwymiad rhagorol i gydraddoldeb a chynhwysiant o fewn y gymuned.
Ymwelodd yr Aelod Llywyddol a'r Pencampwr Cydraddoldeb, y Cynghorydd Chris Smith, â sesiwn hyfforddi'r wythnos hon i gyflwyno'r wobr i'r tîm a manteisiodd ar y cyfle i rwydo ychydig o beli ei hun!
Mae'r wobr yn dathlu ymroddiad y clwb i greu amgylchedd croesawgar, cefnogol a chynhwysol i bawb - ar y cwrt ac oddi arno. Mae Clwb Pêl-rwyd Cymric wedi dangos yn gyson sut y gall chwaraeon fod yn rym pwerus i ddod â phobl ynghyd, chwalu rhwystrau a dathlu amrywiaeth.
Canmolodd y Cynghorydd Smith effaith y clwb, gan ddweud:
“Mae Clwb Pêl-rwyd Cymric yn enghraifft wych o sut y gall chwaraeon ein huno. Mae eu hymrwymiad i gynhwysiant ac ysbryd cymunedol yn adlewyrchu’r gorau o Flaenau Gwent. Mae’n anrhydedd cydnabod eu gwaith.”
Roedd y noson yn ddathliad o werthoedd sy'n bwysig iawn i Flaenau Gwent — cydraddoldeb, cynhwysiant a chymuned. Llongyfarchiadau i Glwb Pêl-rwyd Cymric ar yr anrhydedd haeddiannol hon.