Mae cerflun dur o un o arwyr chwaraeon mwyaf Cymru, Steve Jones MBE, OLY a Rhyddfreiniwr Blaenau Gwent, wedi’i ddadorchuddio gan y dyn ei hun yng Nglynebwy heddiw.
Mae'r cerflun yn coffáu cyflawniadau chwedlonol yr athletwr ac fe'i dadorchuddiwyd ym mhresenoldeb cymuned falch; pwysigion lleol a chenedlaethol; enwau mawr o’r byd rhedeg; sefydliadau chwaraeon Cymru; plant a phobl ifanc a chynrychiolwyr o'r RAF a Chadetiaid ATC lleol.
Roedd Steve yn rhan o Sgwadron Glynebwy 1158 Glynebwy, a roddodd gyfle iddo arddangos ei ddoniau am y tro cyntaf. Yn ddiweddarach aeth ymlaen i wasanaethu yn yr RAF, gan gyfuno bywyd milwrol a'i yrfa athletau lewyrchus, yn aml yn rhedeg yn gwisgo fest yr RAF.
Darllenodd ffrind da i Steve, Kelvin Smith, ei gerdd emosiynol 'Because you are our Legend' i'r dorf a chanodd Côr Meibion Beaufort ddwy gân cyn arwain y dorf yn yr Anthem Genedlaethol, 'Hen Wlad Fy Nhadau'.
Mae'r cerflun, a grëwyd gan yr artist Tim Ward, yn adlewyrchu’r eiliad eiconig yr enillodd Steve Farathon Chicago ym 1984, gan dorri record - eiliad a enillodd le iddo yn hanes athletau’r byd.
Dywedodd Steve heddiw, a oedd dan emosiwn: "Pwy fyddai wedi meddwl, pan adawais i Lynebwy ar 19 Chwefror 1974 fel bachgen 18 oed i ymuno â'r Llu Awyr Brenhinol heb lawer o brofiad rhedeg, y byddai hyn yn dod yn rhan mor enfawr o ’mywyd i. Mae fy llwyddiannau nid yn unig yn dyst i’m gwaith i a’m hyfforddwyr, ond hefyd wir yn adlewyrchiad o le rwy’n dod. Gwnaeth tyfu i fyny yng Nglynebwy, ac yn enwedig Hilltop, fy nghreu i fel person ac athletwr, a dydw i byth yn anghofio hynny. Felly, i ddyfynnu'r arwr Michael Foot, bob tro roeddwn i'n rhoi pâr o sgidiau rhedeg ’mlaen, ble bynnag roeddwn i o gwmpas y byd, roeddwn i nid yn unig yn cynrychioli fy ngwlad, Cymru, ond hefyd Glynebwy.
"Heddiw yw un o ddiwrnodau gorau fy mywyd i. Fel y gwnes i ymdrechu i anrhydeddu Glynebwy a Hilltop, rwy'n falch iawn bod Blaenau Gwent a Glynebwy yn arbennig yn anrhydeddu'r crwt ifanc o Hilltop a wnaeth rywbeth ohono’i hun. Diolch Diolch Diolch."
Mae Steve, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 70 oed yn ddiweddar, yn ymweld o'i gartref yn Colorado, UDA. Ar ôl y dadorchuddiad cynhaliwyd 'Cynulleidfa gyda Steve Jones – Dathlu Mawredd Lleol', digwyddiad yn edrych ar fywyd a gyrfa nodedig.
Ar ddiwedd y dydd, cyflwynwyd sgrôl Rhyddid Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i Steve yn swyddogol gan Aelod Llywyddol Cyngor Blaenau Gwent, y Cynghorydd Chris Smith.
Mae'r dathliad hwn o Steve o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Cyngor Blaenau Gwent, Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach, a’r Aneurin Leisure Trust, gyda chefnogaeth cyllid torfol a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Mae etifeddiaeth Steve Jones yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau. Mae ei fuddugoliaethau yn cynnwys ennill Marathonau Chicago a Llundain, a gellir dod o hyd i'w restr lawn o gyflawniadau yma: link. Y llynedd nodwyd 40 mlynedd ers ei fuddugoliaeth yn Chicago, ac ym mis Ebrill nodwyd 40 mlynedd ers ei fuddugoliaeth ym Marathon Llundain.
Mae'r Cynghorydd Sue Edmunds a Chadeirydd Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach (ac un o gefnogwyr mwyaf Steve Jones), Lee Aherne wedi bod yn allweddol wrth sicrhau'r etifeddiaeth barhaol hon i Steve.
Meddai Lee Aherne: "Mae Steve yn un o eiconau chwaraeon Cymru ac yn haeddu pob clod. Rwy'n gobeithio y bydd y cerflun hwn yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i ddechrau rhedeg a helpu fy nghlwb i, Parc Bryn Bach, i ddod y gorau yng Nghymru gobeithio. Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r tîm gwych o bobl yng Nghyngor Blaenau Gwent a’r Aneurin Leisure Trust am helpu i wireddu breuddwyd saith mlynedd."
Dywed y Cynghorydd Sue Edmunds:
"Mae Steve Jones yn arwr go iawn, ac mae ei stori yn ymgnawdoli ysbryd Blaenau Gwent. O strydoedd Glynebwy i'r llwyfan byd-eang, mae ei daith yn ddim llai na rhyfeddol. Mae ei wyleidd-dra, hyd yn oed wedi torri record byd, yn adrodd cyfrolau am gryfder ei gymeriad. Nid dim ond eicon rhedeg yw Steve - mae'n un ohonom ni. Mae ei gyflawniadau’n parhau i ysbrydoli cenedlaethau, gan brofi bod mawredd o fewn cyrraedd.
"Mae ei gerflun a ddadorchuddiwyd heddiw yn symbol pwerus o'r hyn sy'n bosibl. Bydd y cerflun yn ein hatgoffa am byth - yn enwedig ein pobl ifanc - y gall uchelgais, gwytnwch a chred ynoch chi’ch hun fynd â chi i unrhyw le. Gadewch i ni wneud yn siŵr bod etifeddiaeth Steve yn parhau’n gonglfaen i stori Blaenau Gwent. Bydd ei gerflun yn sefyll yn falch, nid yn unig mewn dur, ond yng nghalonnau pawb sy'n meiddio breuddwydio'n fawr."
Enillodd Lynn Davies fedal aur yn y naid hir yng Ngemau Olympaidd 1964, enillodd Gemau'r Gymanwlad ddwywaith, a daeth yn bencampwr Ewrop. Hefyd, mae’n gyn-reolwr tîm athletau Tîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau'r Byd 1983 a Gemau Olympaidd 1984, pan oedd Steve Jones yn y tîm. Lynn yw Llywydd Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.
Dywedodd heddiw: "Roedd Steve bob amser yn un o'r bois, dyn a oedd yn mwynhau peint neu ddau ’slawer dydd. Mae ei stori’n profi y gall pŵer chwaraeon ddyrchafu unrhyw un o unrhyw gefndir ac unrhyw swydd i’r lefel uchaf, gan ddod yn fyd-enwog.
"I mi mae bob amser wedi bod yn fachgen o Lynebwy sydd heb anghofio o le mae’n dod, ac mae mor falch o'i dreftadaeth. Rhoddodd chwaraeon gyfle iddo, ac fe afaelodd yn y cyfle hwnnw gyda dwy law.
"Mae ei gyflawniadau yn y gamp yn rhyfeddol ac mae bob amser yn wych gweld athletwr o Gymru yn perfformio i lefel mor uchel ar lwyfan y byd. Mae bob amser wedi sicrhau bod draig Cymru’n hedfan yn uchel ac yn falch o amgylch y byd, ble bynnag yr aeth.
"Mae ei yrfa’n parhau i fod yn ysbrydoliaeth i athletwyr yng Nghymru a ledled y DU. Mae ei ymroddiad i'w swydd yn yr RAF a'i hyfforddiant athletau yn enghreifftiau disglair o'r hyn y gellir ei gyflawni gyda disgyblaeth, penderfyniad ac awydd.
"Mae Steve yn un o fawrion chwaraeon Cymru, ond bydd y cerflun yn ei dref enedigol, Glynebwy, yn atgoffa pobl am byth ei fod hefyd yn arwr lleol go iawn."
Mae David Bedford yn un o redwyr pellter hir gorau Prydain. Torrodd record 10,000 metr y byd a chafodd ei goroni'n Bencampwr Traws Gwlad y Byd. Rhedodd ym mhob un o'r prif bencampwriaethau ac yna aeth ymlaen i fod yn gyfarwyddwr Marathon Llundain.
Dywedodd: "Roedd Steve yn rhedwr gwych yn ei ddydd, ond meddyliwch faint gwell y byddai wedi bod yn yr oes fodern gyda'r holl ddatblygiadau newydd mewn technoleg sgidiau a dulliau hyfforddi. Mae'n un o'r ychydig bobl sydd wedi ennill parch cenedlaethau newydd o athletwyr.
"Rydw i mor falch ei fod yn cael ei anrhydeddu fel hyn yn ei dref enedigol. Roedd yn athletwr o'r radd flaenaf, ond mae hefyd yn ŵr da.
"Roedd holl gyfarwyddwyr rasys y byd eisiau Steve Jones yn eu marathon ac roedden ni wrth ein bodd pan ddaeth i Lundain ym 1985 am frwydr enwog gyda Charlie Spedding. Roedd ei amser buddugol yn record ar gyfer y cwrs, a barodd tan 1997.
"Roeddwn i'n ei nabod yn gyntaf fel rhedwr 10,000 metr ac arbenigwr traws gwlad cyn iddo ddechrau cystadlu yn y marathon. Roedd ei gryfder a'i ddycnwch bob amser yn gwneud iddo sefyll allan o'r dorf.
"Mae'n debyg i’w gyflawniad pennaf - ennill aur - lithro o’i afael ym Mhencampwriaethau Ewrop 1986 pan darodd wal yn ail hanner y ras ar ôl cael problemau gyda'i ddŵr yn y gorsafoedd bwydo.
"Roedd ar y blaen o ddwy funud ar ôl yr hanner cyntaf, ond fe ddadhydradodd a llithro i lawr y rhestr ddetholion, ond fe wrthododd roi'r ffidil yn y to. Pan fyddai pawb arall yn ei sgidiau wedi rhoi'r gorau iddi, rhedodd yn llythrennol nes iddo syrthio dros y llinell mewn 2 awr 22 munud - am foi penderfynol!
"Rwy'n falch iawn ei fod yn cael ei gydnabod fel hyn yn ei dref enedigol, ac mae'n cael ei garu a'i barchu nid yn unig yn ei gymuned leol, ond gan athletwyr ledled y byd."
Dywedodd yr artist Tim Ward ei bod yn anrhydedd cael creu'r cerflun. Meddai:
"Rwy'n falch o fod wedi cael fy nghomisiynu i ddylunio a chreu'r cerflun er anrhydedd i Steve Jones a diolch i bawb y bues i'n gweithio mewn partneriaeth gyda nhw ar y prosiect gwych hwn. Bydd y cerflun, rwy'n siŵr, yn rhoi ysbrydoliaeth i bobl sy'n ymweld â'r ganolfan chwaraeon ac yn dod yn dirnod lleol cadarnhaol."