Mae The Drop Zone Golf (TDZG), canolfan golff dan do newydd sy'n addas i'r teulu, wedi lansio'n swyddogol yn Nhredegar, Blaenau Gwent. Cynhaliodd y lleoliad lansiad meddal llwyddiannus yr wythnos diwethaf ar gyfer teulu a ffrindiau cyn croesawu'r cyhoedd ar 2 Rhagfyr. Mae'r cyfleuster modern yn cynnig adloniant drwy gydol y flwyddyn gydag efelychwyr golff, ardal pytio maint llawn, a siop golff gynhwysfawr - y cyfleuster cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Wedi'i sefydlu gan y golffwyr angerddol Christian Lee Prosser a Gareth James, ynghyd â’r cyn-olffiwr proffesiynol uchel ei barch, Craig Evans, mae TDZG wedi'i gynllunio i fod yn lleoliad cwbl gynhwysol i bobl o bob oedran a gallu. Mae'r cyfleuster yn cynnwys tri efelychwr golff datblygedig, gan gynnwys bae VIP ar gyfer ffitio clybiau, gwersi a sesiynau gapio. Gall gwesteion hefyd fwynhau bar a chegin sy'n cynnig lluniaeth poeth ac oer.
Cefnogir The Drop Zone Golf gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor Blaenau Gwent, a ddarparodd gymorth cychwyn busnes, gan gynnwys Grant Datblygu Busnes ac arweiniad drwy'r rhaglen Hwyluso Menter.
Mae Christian a Gareth wedi canmol cefnogaeth y tîm drwy gydol y broses, gan ddweud:
"Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan Dîm Busnes ac Arloesi Blaenau Gwent," meddai Gareth James, Cyd-berchennog The Drop Zone Golf.
"Ni fyddai'r daith hon wedi bod yn bosibl heb gymorth y tîm, ac mae'r anogaeth gan ein teulu a'n ffrindiau wedi bod yn amhrisiadwy."
Mae TDZG yn targedu ystod eang o gwsmeriaid, o blant oed ysgol i bensiynwyr, a'u nod yw creu gofod sy'n hyrwyddo iechyd, lles ac ymgysylltiad cymunedol trwy golff. Bydd y busnes hefyd yn cefnogi mentrau lleol ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog a rhaglenni iechyd meddwl, gan ei wneud yn lleoliad sy'n cynnig mwy na dim ond golff - mae'n lle i gysylltu, ymlacio, a gwella'n gorfforol ac yn feddyliol.
Dywedodd y Cynghorydd John C Morgan, Aelod Cabinet dros Leoedd ac Adfywio:
"Mae hwn yn gyfleuster gwych lle gall pobl ymarfer, chwarae a mwynhau golff. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi'r perchnogion Christian a Gareth i ddewis a buddsoddi yma ym Mlaenau Gwent."
Mae The Drop Zone Golf yn cynnig system archebu ar-lein i helpu cwsmeriaid i gadw amser ar yr efelychwyr a sicrhau gwersi neu offer. Mae cynlluniau'r dyfodol yn cynnwys creu cyfleoedd gwaith ac ehangu arlwy'r lleoliad.
Ynglŷn â The Drop Zone Golf:
Mae The Drop Zone Golf yn gyfleuster golff dan do yn Nhredegar, Blaenau Gwent, sydd wedi'i gynllunio i gynnig lle hwyl a chynhwysol i golffwyr o bob gallu ymarfer, chwarae a mwynhau'r gêm. Mae'r lleoliad yn cynnwys efelychwyr golff modern a bar a chegin, gyda chynlluniau i gynnwys siop golff gynhwysfawr ac ardal pytio a tsipio yn y dyfodol. Gellir defnyddio'r efelychwyr golff hefyd ar gyfer gemau parti ffair, gan gynnwys Dartiau, Bowlio, Oriel Saethu a mwy. Dyma'r unig fusnes o'i fath yng Nghymru, sy'n ymroddedig i gynnig adloniant drwy gydol y flwyddyn a hyrwyddo lles cymunedol.
Am fwy o wybodaeth, ewch i The Drop Zone Golf neu dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol.