Canmoliaeth i Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm, Brynmawr, yn yr adroddiad arolygu diweddaraf

Mae Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm ym Mrynmawr, Blaenau Gwent, wedi cael adborth gwych yn ei harolygiad diweddar gan Estyn, sy'n tynnu sylw at ymrwymiad i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn ffynnu'n academaidd ac yn bersonol.

Tynnodd yr adroddiad sylw at:

  • Ddealltwriaeth ddofn o anghenion y gymuned leol
  • Disgwyliadau uchel ar gyfer cyflawniad ac ymddygiad disgyblion
  • Gofal rhagorol o ran lles disgyblion, sy'n cyfrannu at awyrgylch hamddenol, hapus ar draws yr ysgol
  • Disgyblion cwrtais, hyderus sy’n awyddus i ddysgu ac yn ymateb yn gadarnhaol
  • Addysgu cryf cyson
  • Cwricwlwm ysgogol ac ystyrlon, gyda disgyblion yn cynhyrchu gwaith sy’n llawn dychymyg ac o ansawdd uchel.

Gwnaeth yr arolygwyr hefyd gydnabod cynnydd cryf mewn llythrennedd, sgiliau digidol, a datblygiad corfforol, ochr yn ochr â chefnogaeth effeithiol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r adroddiad yn dathlu cyfraniad gweithredol disgyblion at fywyd yr ysgol trwy grwpiau fel y cyngor ysgol a phencampwyr cydraddoldeb, yn ogystal â gwella cyfraddau presenoldeb, gan gynnwys ymhlith disgyblion o deuluoedd incwm isel.

Dywedodd y Pennaeth Sarah Oliver-Bryant:

"Yn Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm rydyn ni’n gweithio'n galed iawn i greu 'Cymuned Hapus, Uchelgeisiol, Gynhwysol', lle mae pob disgybl yn dysgu i ffynnu a dod yn ddysgwyr annibynnol. Mae'r arolygiad ESTYN hwn yn adlewyrchu gweledigaeth ein hysgol. Mae Llywodraethwyr yr Ysgol a minnau yn hynod falch o gymuned ein hysgol, ond yn enwedig ein disgyblion a staff yr ysgol."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Da iawn i bawb yn Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm ar yr adroddiad gwych hwn. Mae'r ysgol yn amgylchedd dysgu cynnes, cynhwysol lle mae disgyblion yn cael eu cefnogi'n dda ac yn amlwg yn ffynnu, gan atgyfnerthu ein cenhadaeth i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd."